Tudalen:Dros y Gamfa.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gallai yn ei fyw fynd yn nes ato.

"Ond," meddai wrtho ei hunan, "byddaf yn siwr o'i ddal wedi iddo gyrraedd y gwastad."

Ac fel yr oedd yn neshau at waelod y bryn y maent yn caniatau iddo gyflymu, a chyflymu gymaint fel na welodd Hywel mewn pryd mai llyn oedd y lle gwastad, yn cael ei guddio â chaenen deneu o chwyn, ac yr oedd bron ar ei fin pan y gwelai yr afal yn diflannu ynddo, a'r un eiliad dacw y Tylwyth Chwim yn gollwng y rhaffau, a Hywel ar ei ben i'r llyn. Yn ffodus iddo nid oedd y dwfr yn ddwfn, ond yr oedd golwg truenus arno yn codi ohono yn wlyb diferol, a'r gaenen wyrdd oedd ar wyneb y llyn yn glynu wrtho. Yr oedd yn berffaith sicr erbyn hyn nas gallai yr un tylwyth fod yn waeth na'r tylwyth yma, a syllai arnynt gyda difrifwch yn crechwen ac yn ymrolio hyd lawr, fel pe bai y digrifwch roddai yr olwg arno iddynt yn fwy nas gallent gynnal. A da oedd ganddo eu gweled yn ailgychwyn, er bod ei glustiau yn merwino wrth eu clywed yn siarad â'i gilydd amdano fel hyn:

"Mae ei liw yn debig i Dylwyth y Coed."

"Byddai yn hawdd ei gamgymeryd am un ohonynt."

"Gwna frenin ardderchog iddynt; y mae mor ddewr a phrydferth."

"Y mae mor hardd a'r Tylwyth Teg. Onid yw y dŵr a'r drain wedi gwneud eu hôl yn dda arno?"

"Mae'n dda gen i fod y rhaff yn ddigon hir i'w gadw ymhell oddiwrthyf."

"Cawn groeso cynnes yn y llys pan welant ef."

"Cawn," ebai'r arweinydd, "gadewch i ni brysuro ymlaen. Mae gennym lawer o waith crwydro cyn cyrraedd yno."

Ac ebai wrth Hywel,—"Pam na faset ti yn chwilio am yr afal ar waelod y llyn. Mae y llyffaint wedi gwledda arno erbyn hyn."

"Mae croeso iddynt ei gael," ebai Hywel, "y cwbl sydd arnaf fi ei eisiau ydyw cael mynd dros y gamfa."

"Nid yw o bwys beth sydd arnat eisiau, yr hyn ydym ni yn ddymuno i ti gael, dyna gei di."

Parodd clywed hyn i Hywel deimlo yn bur ddigalon, ond ni feiddiai eu gwrthwynebu, ac meddai wrtho ei hunan,—

"Mae pob munud wyf yn dreulio yng nghwmni y rhein yn gwneud i mi eu hofni'n fwy. Fe ddwedodd Tylwyth y Coed y gwir bob gair amdanynt. Ond waeth i mi heb a cholli amser i feddwl am hynny, y peth goreu i mi yn awr ydyw chwilio yn ddyfal am gyfle i gael dod yn rhydd oddiwrthynt. O na ddeuai Tylwyth y Coed i chwilio amdanaf. Er iddynt fy nghuro, credaf y buaswn yn ddiogel yn eu cwmni. Mae'r ffaith eu bod yn gyfeillion i'r Tylwyth