VIII. Y Wisg Ryfedd
A rhedeg y buont heb arafu cam nes y daethant at goeden fawr, ac yno y maent yn peri i Hywel eistedd wrth fôn y goeden, ac yntau yn ufuddhau gyda brys a diolchgarwch.
"Nid oes eisiau i ti ddiolch," ebai'r arweinydd, "cei dy rwymo yn awr wrth y goeden gyda'r rhaffau, a chaiff dau ohonom aros yma i dy wylio, tra y bydd y gweddill a finnau yn mynd i le neilltuol yn y goedwig. Tynnwch y rhaffau, Dylwyth Chwim, a gadewch i ni ei rwymo yn dyn." Gyda'r un medr ag y cylymasant ef y maent yn ei ddatod, ac yn ei rwymo wrth fôn y goeden.
"Oni fyddai yn well i dri ohonom aros i'w wylio?" gofynnai un ohonynt.
"Na," oedd ateb yr arweinydd, "y mae'n berffaith ddiogel gyda dau; trowch i'r chwith a dilynwch fi." A chan mai i'r chwith yr oeddynt yn troi, yr oeddynt o'r golwg bron gynted ag y cawsant y gorchymyn, a Hywel yn teimlo mai gwir a ddywedodd yr arweinydd pan y sylwodd ei fod yn berffaith ddiogel, oblegid yr oeddynt wedi ei gylymu mor dyn yn y goeden a phe bai ddarn ohoni, ac nis gallai symud llaw na throed. Ond gan fod ei dafod yn rhydd, mentrodd ofyn i'r rhai oedd yn ei wylio,—"I ba le y maent wedi mynd?"
A dyma'r ateb,—
"Maent wedi cael hysbysrwydd fod Tylwyth y Coed yn dod i'r goedwig heno i chwarae pan gyfyd y lloer, ac mae'n Tylwyth ni wedi mynd yno i roi olew glynu ar y glaswellt."
"Olew glynu," ebai Hywel, "beth yw hwnnw?"
"A gaf fi ddweyd wrtho?" gofynnai un i'r llall. "Cei," ebe yntau, "mae'n bryd iddo gael gwybod rhai pethau. Bydd raid iddo ein helpu gyda'n goruchwylion gyda hyn."
"Na fydd byth," ebe Hywel wrtho ei hunan, gan arswydo wrth gofio yr hyn alwent yn oruchwylion.
Ac ebe un oedd yn siarad ag ef,—"Olew anweledig ydyw yr olew glynu, ac os bydd wedi ei roddi ar rywbeth a thithau'n sefyll ar hwnnw, nis gelli symud oddiyno nes daw rhywun atat i dy ollwng yn rhyrdd. Ac y mae ein Tylwyth ni am ei roddi ar y gwellt lle y bwriada Tylwyth y Coed chwarae heno. Ond unwaith y safant arno, bydd raid iddynt aros yno nes y cyfyd yr haul, pan y