ei syndod, ymddangosai fel pe baent yn mynd o'u ffordd er mwyn cael ei dringo, ond cafodd fwy o achos i synnu pan welodd mai cors oedd yr ochr arall i'r wal, ac nis gallai ddeall fod llwybr mewn cors y llwybr cyntaf i unrhyw le. Ond trwy gors y bu raid mynd, a chan ei bod mor laith a sigledig, nid oedd yr un ohonynt, er mor chwim ydoedd, yn gallu prysuro drwyddi. Wedi o'r diwedd ddod allan ohoni, y maent yn dal i deithio yn yr un cyfeiriad heb droi i dde nac aswy. Ac nis gallai Hywel lai na sylwi ar y daith fel yr oedd popeth o'u cwmpas yn mynd yn llai prydferth. Y gwrychoedd yn mynd yn brinach o ddail; dail y coed wedi colli y gloywder oedd yn eu nodweddu mewn rhannau eraill o'r goedwig; y gwellt o dan eu traed yn mynd yn fwy caled ac anodd ei gerdded; pob blodeuyn fel pe wedi gwrthod tyfu yn unman mor bell ag y gwelai, a rhyw wreiddiau yma ac acw yn gwasgar arogl anhyfryd nes trymhau yr awyr o'u cwmpas. Toc, daethant at ffrwd o ryw ddwy lath o led, a throedfedd o ddyfnder, ac wedi sefyll yn y fan honno, y mae'r arweinydd yn mynd ac yn sibrwd rhywbeth yng nghlust pob un, ac fel yr oedd yn sibrwd, yr oedd gwên faleisus yn ymdaenu dros wyneb y sawl oedd yn gwrando, ac wedi sibrwd yng nghlust yr olaf, y mae'n nesu at Hywel ac yn dweyd gydag awdurdod yn ei lais:
"Mae eisiau i ti ein cario ar dy gefn bob yn un dros yr afon yma. Cei fy nghario i yn gyntaf."
A chyda dweyd hyn y mae yn neidio ar gefn Hywel, ac yn ddiymdroi y mae yntau yn ei gario drwy yr afon i'r ochr arall. Ac yn dychwelyd i nôl y lleill y naill ar ôl y llall, nes yr oedd yn rhy flin bron i ymsythu. Ni feddyliodd erioed y gallai neb o'u maint fod drymed, yr oedd pob un ohonynt fel darn o blwm, a da iawn oedd ganddo gael rhoi yr olaf i lawr yr ochr bellaf i'r afon. Wedi cerdded ond ychydig o gamrau oddiwrth y dŵr, daethant at drofa, ac yn y fan honno, er braw mawr i Hywel, wedi iddynt fynd heibio y drofa, y maent yn dechreu crechwen a dawnsio a gwneud yr ystumiau rhyfeddaf arnynt eu hunain, ac yna wedi ysbaid o hyn, y maent i gyd yn ymsythu, a chan bwyntio i'r un cyfeiriad, y maent yn bloeddio gyda'i gilydd, "Dacw'r llys. Fe gawn groeso cynnes gyda hyn." Ac ymroent i ragor o dwrf a miri, tra yr oedd Hywel yn sefyll o'r neilltu wedi ei feddiannu yn llwyr gan anobaith a braw. Ac yn dweyd wrtho ei hunan:
"Mae ar ben arnaf yn awr. O! na bawn wedi cael mynd dros y gamfa fel Caradog. Paham y gwnes dro mor ffôl ac uno â'r Tylwyth yma, a chymryd fy nenu ganddynt. Tybed fod Tylwyth y Coed yn parhau i chwilio am danaf? Pa le——"