Tudalen:Dros y Gamfa.djvu/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

minteioedd o Dylwyth y Coed yma ac acw yn y goedwig am Hywel, a'r fintai fwyaf nid yn unig mewn rhif, ond hefyd mewn sêl yn cael ei harwain gan Dylwyth y ddwy gadwen. Nid oedd ball ar ei ymdrechion i ddod o hyd i Hywel, na therfyn ar ei ddyfalbarhâd, ac yr oedd drwy hyn wedi ennill edmygedd a chydymdeimlad y minteioedd eraill i gyd. Ac os byddai i rai ohonynt glywed neu weled rhywbeth dybient o bwys gyda'r gwaith, yn ddiymdroi ânt i'w hysbysu, gan ei ystyried yn brif arweinydd y minteioedd. Ac oddeutu yr adeg y dechreuai y Tylwyth Chwim chwilio am y rhaffau, yr oedd rhai o Dylwyth y Coed yn hysbysu Tylwyth y ddwy gadwen fel y llwyddasant i droi yn ôl y tylwyth gyda'r olew glynu, gan ychwanegu,—"Ond nid oedd Hywel gyda hwy, ac ofnwn ei fod wedi ei lusgo erbyn hyn i'w llys."

"Na," ebai yntau, "y mae fy mrawd yn aros o fewn y goeden onnen yng ngolwg porth eu llys, ac â'i lygaid treiddgar yn ddiarwybod iddynt hwy yn gallu gweld pob un aiff i mewn ac allan drwy y porth. Pan welais Hywel gyntaf, ar fy ffordd at fy mrawd yr oeddwn, a dyna'r gyfrinach oedd ganddo i ddweyd wrthyf, fod haid y rhaffau newydd adael y llys."

Ac ebe un o'r lleill,—"Mae ein dyled yn fawr iddo, buasent wedi dod ar ein gwarthaf a'n niweidio lawer gwaith, onibai ei fod ef yn gwylio mor ddygn a medrus."

Ar hynny y mae dau arall o'r tylwyth yn cyrraedd hyd atynt, ac meddent,—"Mae Tylwyth y goeden onen wedi ein hanfon atoch i ddweyd fod haid y rhaffau wedi bod o fewn ychydig i borth eu llys, ac yna wedi troi yn ôl yn sydyn, a bod yn eu mysg un mawr mewn gwisg fel eu gwisg hwy, ond yn llawer trymach ei droed, a mwy araf ei ysgogiadau."

Pan glywsant hyn aeth yn siarad brwd rhyngddynt ar unwaith. Pob un yn gofyn cwestiwn haws ei ofyn na'i ateb, megis,—"Ai tybed mai Hywel ydyw?" "A ydyw yn bosibl iddynt gael gwisg ddigon mawr iddo?" "A fu Hywel yn y llys?" "A oedd Hywel wedi uno â hwy a chymeryd eu gwisg o'i fodd?" a llawer o gwestiynau cyffelyb. Ac ebe Tylwyth y ddwy gadwen wedi gwrando am ysbaid arnynt,—"Gan nad ydym yn alluog i ateb yr un o'r cwestiynau ydym yn ofyn, oni fyddai yn well i chwi fynd i chwilio am y Tylwyth Teg? Maent hwy yn gwybod llawer o hanes y Tylwyth Chwim, ac yn barod i wneud eu goreu i'n helpu ninnau bob amser. A oes un ohonoch wedi eu gweld yn ddiweddar? Fel y gwyddoch, er yr amser y newidiodd y Tylwyth Chwim y ddwy gadwen, yr wyf fi dan orfod i gadw oddiwrthynt, hyd nes y byddaf wedi llwyddo i goshi y Tylwyth Chwim, ac er mor bwysig yw hynny i mi, gwell gen i dreulio fy amser yn gyntaf i geisio dod o hyd i Hywel."

Ac ebe un o'r lleill,—"Mi glywais i y Tylwyth Teg yn canu neithiwr y tu ôl i ogof y grisial."