Tudalen:Dros y Gamfa.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

osgoi."

"Clywaist y gwir. Ond nis gall neb ond hwy eu hunain gynnal y sawyr afiach sydd yn llenwi'r awyr o gwmpas porth eu llys hwy."

"Hawdd gennyf gredu hynny. Diameu ei fod fel popeth arall sy'n perthyn iddynt. Ond dywed i mi, pa goed yw y rhai acw sy'n disgleirio cymaint yng ngoleu'r lloer?"

"Dacw y coed arian. Tu ôl iddynt y mae y porth. Gad i ni redeg atynt, gwelaf y dail yn ysgwyd ac yn sisial fel y byddant pan y bydd y Tylwyth Teg yn mynd heibio. Efallai y cyrhaeddwn y porth ar unwaith a fy nghyfeillion, Tylwyth y gwlith."

Ond er cyflymu eu camrau nid ydynt yn gallu cyrraedd hyd nes yr oedd y rhan olaf o'r Tylwyth Teg wedi mynd drwy y porth. Ond cawsant groeso cynnes gan y rhai oedd yn ei wylio, a llecyn esmwyth a dymunol i eistedd yng nghanol y blodau a'i ffurfiai, blodau o liw coch, neu yn fwy cywir, o bob amrywiaeth sydd yn y lliw coch, nes gwneud y porth edrych fel y bydd yr awyr o gwmpas yr haul pan y machluda ar noson deg. Ac wedi clywed eu neges, y mae y rhai oedd yn gwylio yn anfon am Dylwyth y gwlith atynt. Fel yr oeddynt yn aros ac yn mawrygu y fraint o gael dod i le mor hyfryd, dechreua rhywun ganu megis yn y pellter tu mewn i'r llys. Ac fel y neshai y canwr at y porth, meddai un wrth y llall,—

"Dyna'r gân fydd ein harweinydd yn ganu."

"Ie, ond pwy fuasai'n disgwyl clywed cân a chymaint o'r lleddf ynddi mewn lle mor hyfryd. Nid yw mor syn gen i iddi gael ei chanu tu ôl i'r ogof risial, ymhell o'r llys prydferth yma."

"Nac ydyw, ond os mai cân o hiraeth ydyw fel y clywsom, feallai——"

Cyn iddo gael hamdden i orffen yr hyn fwriadai ddweyd, y mae y gân yn tewi a'r canwr yn dod i mewn i'r porth, a phan y gwelodd hwy daeth ar redeg atynt gan ofyn,—

"A ydych wedi dod ar neges oddiwrth Dylwyth y ddwy gadwen?"

Ac er bod tinc o bryder yn ei llais, yr oedd mor llawn o fiwsig bron a phan y canai, ychwanegodd,—

"Dywedwch bopeth a wyddoch amdano wrthyf."

Yna y maent hwythau, wedi eu cymell fel hyn, yn adrodd yn fanwl holl hanes Tylwyth y ddwy gadwen, gan ymhelaethu ar ei ymdrechion i gael Hywel o afael y Tylwyth Chwim, ac i groesi eu cynlluniau, ac yn diweddu gyda dweyd eu neges ym Mhorth y Tylwyth Teg. Wedi gwrando yn astud ar yr hyn ddywedent y mae hithau yn ateb fel hyn,—

"Mae eich geiriau yn felus iawn i mi. O hyn allan 'rwyf am obeithio y