bydd i Dylwyth y ddwy gadwen lwyddo yn ei waith ac ennill ffafr ein brenhines yn ôl. Ac yn awr 'rwyf am fynd ati ac adrodd wrthi yr hyn glywais gennych. Nid wyf yn ameu wedi iddi ei glywed, nad anfona rywbeth i'w gynorthwyo yn ei waith. Nis gwn i ddim am wisg y Tylwyth Chwim, ond fe ddaw Tylwyth y gwlith atoch gyda hyn, a chewch wybod bopeth yn ei chylch ganddynt hwy. Deuaf finnau yn ôl cyn bo hir; arhoswch amdanaf." A chyda dweyd y geiriau yma prysura'n ôl i'r llys, ac yn fuan wedi hynny cyrhaedda Tylwyth y gwlith y porth. Wedi iddynt yn serchog gyfarch Tylwyth y Coed a chael gwybod eu neges, hysbysant ef o bob cyfrinion a berthynai i wisg y Tylwyth Chwim, ac yn eu sicrhau y gallent yn hawdd orfodi Hywel i'w gwisgo. Pan yn diolch yn gynnes iddynt am eu parodrwydd i roi gwybodaeth iddynt, y mae y Tylwyth Teg yn dod yn ôl i'r porth ac yn ei llaw flodyn mawr melyn, melyn, mor danbaid nes ymddangos fel blodyn o aur, ac meddai,—
"Mae ein brenhines ar ôl clywed hanes Tylwyth y ddwy gadwen wedi llawenhau yn fawr, ac yn gofyn i chwi fynd a'r blodyn yma iddo i'w osod yng nghanol y tusw dail ar ben ei wialen. Pan wêl y blodyn yn cau, bydd hynny yn arwydd iddo ei fod yn ymyl y Tylwyth Chwim, ond pan egyr y blodyn yn llawn, gall fod yn sicr y bydd pellter mawr rhyngddynt. Hefyd, yr wyf wedi cael caniatad i ddweyd wrthych fod Caradog wedi dod yn ôl i'r goedwig. Mae amryw ohonom wedi ei weled lawer gwaith, ac edrycha fel pe eto ar yr un neges. Aiff drwy y coed gan syllu ar eu brigau, ond nid ydym wedi cael cyfle i'w helpu hyd yn hyn. Y mae gennyf un peth arall i'ch hysbysu; y mae cadwen Caradog yn ddiogel gennyf, ac yr wyf yn disgwyl cael ei chyflwyno i'w pherchennog cyn bo hir."
"Diolch yn fawr i chwi am eich caredigrwydd," ebe Tylwyth y Coed, "ac am y blodyn, bydd hwn o help dirfawr i ni, a diolch i chwi hefyd am yr hyn ddywedsoch am Garadog. Mae ein harweinydd wedi pryderu llawer yn ei gylch wedi iddo gael ei gario dros y gamfa, ac wedi gofidio nid ychydig wrth feddwl y gallai y gadwen fod ym meddiant y Tylwyth Chwim. Bydd clywed hyn yn newydd wrth fodd ei galon, ac er mor hyfryd ydyw yma, rhaid i ni yn awr brysuro ato."
"Na! na!" ebe y Tylwyth Teg, "arhoswch i chwi gael profi ein mêl. Mae o'r math melysaf."
"Mae'n sicr ei fod. Ond nis gallwn oedi moment. Mae ein Tylwyth yn aros yn bryderus amdanom, ac yn methu trefnu na symud cyn cael canlyniad ein hymweliad ni atoch. Rhaid mynd, ffarwel."
Dilynodd y Tylwyth Teg hwy i'r fynedfa i'r porth, ac yn sŵn eu cân, y maent hwythau yn rhedeg am y goedwig. Ond er rhedeg, nid oeddynt wedi cyrraedd y gweddill o'r Tylwyth cyn iddynt ddechreu anesmwytho yn eu cylch, ac i nifer ohonynt gychwyn i'w cyfarfod. Ond pan welsant y blodyn, a