"Iâ, beth am y rhaffau?" gofynnai un o'r lleill mewn tôn sarhaus.
"Chwiliwch am y rhaffau a'r dail poethion, y fi ydyw'r arweinydd."
"Arweinydd, yn wir," ebai y mwyaf beiddgar ohonynt, "rydym wedi blino arnat. Y mae y rhaffau yn ein meddiant ni cyn i ti groesi trothwy y llys am dy anturiaeth gyntaf, ac y mae pob un ohonom yn fwy atebol i fod yn arweinydd na thi."
Gyda'r cyfrwysder oedd yn nodweddiadol ohono, ni wnaeth yr arweinydd un sylw ar hyn, ond galwodd yn uchel,—"Dacw ddail poethion. Rhuthrwch ar Hywel a diosgwch y wisg oddi amdano." A dyna Hywel, er nas gallai ganfod dail poethion yn unman yn cael ei amgylchynnu ganddynt, a'u dwylo teneuon fel dannedd cŵn yn gafael ynddo, a'i obaith am gael dianc fel pe ar ddiffoddi. Ond y foment nesaf dyna rhyw berarogl hyfryd yn llenwi'r awyr, a dacw bob llaw yn disgyn fel pe wedi diffrwytho, a'r Tylwyth Chwim gyda'i gilydd yn ysgrechian,—"Blodau'r Tylwyth Teg! Blodau'r Tylwyth Teg!" A chyda hynny tybiodd Hywel fod dail y coed yn rhedeg amdano, nis gallai, gan mor ddirybudd y cyfnewidiad o'i gwmpas, amgyffred fod tyrfa o Dylwyth y Coed mewn gwirionedd wedi cyrraedd gyda'u ffyn a'u tusw dail. Ac er na chymerodd hyn ond dau eiliad neu dri, gwelodd Hywel y tro yma ei gyfle i ddianc, a dringodd fel wiwer i fyny y goeden nesaf ato. Pe bai wedi oedi cymaint ac i gymryd un anadl, buasai yn rhy ddiweddar. Yr oedd dwylo y Tylwyth Chwim wedi eu hestyn amdano, i'w cipio gyda hwy, ond yr oeddynt elliad yn rhy hwyr. Rhaid oedd iddynt redeg heb gael cymaint ag un golwg ar Hywel ym mhen y goeden. A rhedeg wnaethant fel arfer gyda chyflymder teilwng o'u teitl a Thylwyth y Coed yn eu hymlid. A Hywel o ben y goeden yn eu gwylio ac yn ceisio dyfalu beth oedd y blodyn mawr, er yn gaeêdig, oedd fel llusern oleu yng nghanol tusw dail un ohonynt. Gan fod ei holl feddwl ar eu gwylio, nid oedd wedi sylwi fod rhai ohonynt wrth fôn y goeden hyd nes y clywodd un yn dweyd fel hyn,—"Mae un yn ymguddio yn y goeden yma." Ac ebai un arall gydag awdurdod yn ei lais,—"Tyrd i lawr neu bydd dy gosb yn llawer trymach." Ac ebai Hywel gan brysuro atynt,—"Deuaf gyda phleser, rwyf yn hiraethu am eich gweled." Ond er eistedd yn dawel ar bentwr o ddail fel yr oeddynt yn gorchymyn iddo a gwenu'n siriol arnynt, deallodd yn fuan nad oeddynt yn gweled ynddo ond un o'u gelynion. Ac ebai un ohonynt,—"Gelli edrych yn garedig a dymunol, ond nid ydym heb adnabod dy dwyll a dy gyfrwyster."
"Nid yw yn syn gennyf," ebai Hywel, "eich bod yn fy ameu, ond os caf weld Tylwyth y ddwy gadwen, bydd popeth yn iawn." Ar hyn maent yn mynd o'r neilltu ac yn sisial gyda'i gilydd, ac yna yn dod yn ôl ac yn dweyd,—"Daw Tylwyth y ddwy gadwen yma gyda hyn, ac yna fel 'rwyt yn dweyd bydd popeth yn iawn. Gofala ef na chaiff yr un ohonoch ddyrysu rhagor ar ei