A dyna hwy yn dod ar redeg o bob congl a chilfach, ac yn sefyll yn llu o'u cwmpas. Ac meddai.—"Beth ddyliech chwi? Mae rhaffau y Tylwyth Chwim ym meddiant Hywel."
Sôn am deimlo yn llawen, ni welodd Hywel erioed y fath arwyddion o lawenydd. Yr oeddynt yn dawnsio, yn chwerthin, yn cofleidio ei gilydd, yn chwifio eu tusw dail, ac fel pe wedi colli pob rheolaeth arnynt eu hunain gan yr hyfrydwch barodd clywed fod y rhaffau ganddo. Ac yr oedd yntau wrth ei fodd yn gwrando arnynt, yr oedd eu lleisiau fel miwsig i'w glustiau. Ond y foment y galwodd Tylwyth y ddwy gadwen am osteg, sâ pob un yn ei le fel delw, dechreua yntau siarad mewn distawrwydd perffaith,—"Mae Hywel wedi gwneud y gymwynas fwyaf â ni drwy gadw y rhaffau, ac os cyflwyna hwy i mi, gallwn atal y Tylwyth Chwim rhag dod byth i'r goedwig yma eto."
"Mae i chwi groesaw ohonynt," ebai Hywel, "gan eu hestyn iddo. Ond sut y gallwch eu hatal â'u rhaffau hwy eu hunain?"
"Drwy eu plethu ar draws y fynedfa i'w porth, ac ni ddaw yr un ohonynt drwodd ar ôl hynny. A ddowch chwi gyda ni i wneud y gwaith yn awr heb golli amser?"
Pan ddeallodd fod yn bosibl i'r rhaffau gyflawni y fath orchestwaith, atebodd yn ddioed,—"Deuaf gyda phleser." Ond cyn cychwyn, teimlai fod yn rhaid iddo gael un dymuniad, a gofynnodd, "A wnewch chwi fod mor garedig a thynnu y wisg boenus yma oddi amdanaf a'i rhwygo yn gareiau?" Nid oedd eisiau ail ofyn, yr oedd hyn yn waith wrth eu bodd, yn gynt nag y gellir dweyd nid oedd y wisg ond pentwr o edau goch ar y llawr. Yna ffwrdd â hwy am y fynedfa i lys y Tylwyth Chwim, gan alw ar y ffordd am Dylwyth y Goeden Onnen. Ac wedi cyrraedd yno y maent yn dechreu plethu y rhaffau, heb yngan gair wrth ei gilydd, a Hywel yn sefyll i edrych arnynt, ac i ryfeddu at eu dull cyflym a chywrain o weithio. Wedi iddynt orffen y mae Tylwyth y ddwy gadwen yn mynd i ben carreg wen fawr, oedd yn ymyl, ac meddai,—"'Rwyf wedi egluro i Hywel paham y curodd rhai ohonoch ef, ac y mae wedi deall ac yn barod i gydnabod nad oedd ond hynny i'w ddisgwyl. Ond yn awr, dyma ni drwy ei gynhorthwy wedi ennill ein rhyddid am y tro cyntaf erioed. Pa fodd yr ydym yn mynd i'w wobrwyo?" Ac ebai y Tylwyth gyda'i gilydd,—"Ei arwain i'n llys a'i groesawu yno." Ac ebai Hywel gyda brys cyn iddynt ychwanegu gair ymhellach,—"Diolch i chwi am eich caredigrwydd yn fy ngwahodd i'ch llys, ond y wobr oreu ellwch roddi i mi fydd trwsio fy nillad, a fy hebrwng drwy y goedwig a thros y gamfa."
Ac ebai Tylwyth y ddwy gadwen,—"Gan mai dyna dy ddymuniad, yr ydym yn sior o dy arwain dros y gamfa, ond nis gallwn drwsio dy ddillad. Y Tylwyth Teg all wneud hynny, ac fe wnant gyda phleser wedi clywed yr hyn wyt wedi wneud i ni. Af atynt heb ymdroi i ofyn iddynt, caiff un ran o'r fintai