Tudalen:Dros y Gamfa.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yma ddod gyda mi, a chaiff y rhan arall fynd gyda thithau. Ewch, ac aroswch amdanom ynghanol y goedwig." Yn y fan honno y mae Tylwyth y Coed yn gwahanu, a Hywel a'r rhai oedd gyd ag ef cyn hir yn cyrraedd canol y goedwig. Ac wedi eistedd yn y llecyn hwnnw, ebai un ohonynt,—"Mae'n dda gen i feddwl y caiff Tylwyth y ddwy gadwen ei groesawu'n ôl i ffafr y Tylwyth Teg."

"Mae'n dda gen innau," ebai un arall, "gan fod rhai ohonynt yn hiraethu amdano. A chawn ninnau i gyd heno ein gwahodd i'w llys i lawenhau gyda'n gilydd fod y goedwig yn rhydd." Ar hyn y mae un ohonynt oedd wedi dringo i ben un o'r coed yn galw,—"Hywel, dring i fyny yma. Gwelaf dy gyfaill Caradog yn y pellter yn troi tuag adref, a baich o wiail helyg ar ei gefn."

Fel wiwer yr oedd Hywel i fyny yu edrych ar Caradog â'i faich gwiail yn mynd heibio y gwrychoedd a'r coed. A sylwodd nad rhyw wiail cyffredin oeddynt, ond gwiail oedd yn disgleirio fel arian, ac yr oedd cannoedd ohonynt yn ei faich, ac eto nid oedd y baich yn llethu Caradog, elai ymlaen yn heini ac ysgafn ei droed. "O wiail prydferth," ebai, "buasai un o'r rhai acw yn werthfawr. Ym mha le y cafodd hwynt, tybed?" Ac ebai ei gydymaith,—"Clywais y Tylwyth Teg yn dweyd eu bod yn disgwyl cyfle i'w helpu, a gwelaf fod eu dymuniad wedi ei roddi iddynt. Ni fuasai Caradog yn gallu dod o hyd iddynt ei hunan onibai fod y Tylwyth Teg, drwy rhyw ffordd gyfrin, wedi ei arwain atynt. Bydd ei dad yn llawer mwy cyfoethog nag y bu erioed o'r blaen, ar ôl gwerthu y basgedi wna â'r gwiail yna."

"'Roedd o'n edrych yn hynod o hapus," meddai Hywel, gan ddisgyn oddiar y goeden, wedi dal i'w wylio nes yr aeth o'r golwg.

"Mi fyddaf finnau yn hapus pan gaf fynd dros y gamfa. A fydd y Tylwyth Teg yn hir eto cyn dod yma?"

"Na fyddant; mae'n ddiameu eu bod yn barod wedi gadael eu llys ac ar eu taith atom."

"A yw yn bosibl i mi gael eu gwylio tra byddant yn trwsio fy nillad?"

"Nac ydyw. Rhaid i chwi fynd i gysgu gynted ag y clywn eu sŵn yn neshau. Ond wedi i chwi ddeffro, bydd eich dillad mor gyfan a phan oeddych yn cychwyn oddi cartref yn y bore, a Thylwyth y Coed yma i'ch arwain tros y gamfa. Ust! dyna sŵn eu miwsig yn y pellter. Gorweddwch a chauwch eich llygaid."

Ufuddhaodd Hywel yn ddiymdroi, a dyna lle 'roedd yn clustfeinio am y miwsig, ond er gwrando a gwrando, nis gallai glywed yr un nodyn ohono. A dyna sŵn troed yn rhywle, a'r sŵn yn dod yn nes, nes, yn ddigon agos iddo glywed y brigau mân yn clecian oddi tano. Ac ebai Hywel wrtho ei hunan,—"Pwy fuasai'n meddwl fod troed y Tylwyth Teg mor drwm. Ond hwyrach