fod yna dyrfa ohonynt." Ar hynny dyna rhyw law yn gafael yn ei ysgwydd ac yn ei ysgwyd. Ac ebai Hywel drachefn,—"A phwy fuasai'n meddwl fod ganddynt law mor galed?" Ust! dyna rhyw lais yn galw arno,—"Hywel! Hywel!"
"Wel," meddai, "dyna lais yr un fath yn union a llais tada, mae'n rhaid i mi gael agor fy llygaid." Agorodd hwy, a gwelodd ei dad yn sefyll yn ei ymyl. Wedi rhyw eiliad o syllu'n syn arno, neidiodd i fyny a chydiodd yn dyn yn ei law, ac meddai ei dad,—"Beth wnaeth i ti ddod y ffordd hyn?"
"Meddwl y buaswn i 'n medru dod adref yn gynt i gael dod i'ch cyfarfod, tada."
"Ac yn lle hynny mi êst i gysgu yn y fan hyn. Wel, tyrd i ni gael mynd gynta medrwn i ni gael cyrraedd y tŷ o flaen dy nain. Wedi mi fynd yno i chwilio amdanat, daeth yn ôl gyda mi ond daliodd hi i fynd ar hyd y ffordd. Fedra hi ddim meddwl am fynd i'w gwely heno heb gael gwybod fydda ti wedi cyrraedd." Ac wrth wrando ar ei dad yn siarad, ac edrych yn ei lygaid caredig, anghofiodd Hywel bopeth am y Tylwyth Chwim, Tylwyth y Coed, a'r Tylwyth Teg. Yn wir, ni chofiodd ddim amdanynt, hyd yn oed pan yn cael ei gario gan ei dad dros y gamfa.