hwylus ar y llawr gwyrdd, esmwyth, yr ochr arall iddi. Ond cyn cerdded eithaf hanner dwsin o lathenni yn y goedwig, gwelodd fod y llwybrau bron mor liosog a'r coed, ac yn arwain i bob cyfeiriad, a bu am foment yn petruso a elai ymlaen ai peidio, ond gan ei fod mor awyddus i gyrraedd ei gartref mewn pryd, penderfynodd barhau i chwilio am lwybr y gamfa, a daliodd i gerdded a cherdded nes cael ei hunan mewn llecyn a amgylchynwyd â gwrychoedd, ac nis gwyddai yn y byd sut i fynd oddi yno, yn ol nac ymlaen. Yn y fan honno y mae'n eistedd i orffwys ychydig ac i edrych ar y coed mawr oedd yn tyfu o gwmpas y gwrychoedd, ac fel yr oedd yn edrych, y mae'n sylwi fod cangen un o'r coed yn dechre ysgwyd. Nid ysgwyd fel y bydd cangen pan yn cael ei siglo gan yr awel, ond edrychai fel pe'n cael ei symud gan ryw law. Ar unwaith, ymwthiodd Hywel drwy y gwrych i'r ochr arall. Yn y fan honno gwelai fachgen, ychydig yn fwy nag ef, yn siglo ei hunan ôl a blaen wrth y gangen. Tra yr oedd syndod a llawenydd yng ngolwg Hywel wrth ei weled, edrychai y bachgen yn hollol ddidaro, ac fel pe bai cyfarfod Hywel yn y lle hwnnw yn un o'r pethau mwyaf naturiol, a gofynnodd, gan ddisgyn i lawr oddiar y gangen,—
"Wyddoch chwi lle mae coed helyg yn tyfu? 'Rydw i 'n crwydro yn y goedwig yma ers oriau, yn chwilio am wiail helyg i nhad wneud basgedi, a fedra i yn 'y myw ddod o hyd i'r coed."
"Na wn, wir. Mae'r lle'n ddiarth iawn i mi. Wyddoch chwi p'run ydyw'r llwybr sy'n arwain at y gamfa sydd yn y ffordd bost? 'Rwyf ers meityn yn chwilio am dano."
"Mae arnaf ofn y bydd raid i chwi chwilio'n hir eto. Cyn y dowch i'r llwybr sy'n arwain iddo, rhaid i chwi droi ar y chwith ddwy waith ac i'r dde deirgwaith."
"Ddowch chwi i ddangos y ffordd i mi? Mae'n tŷ ni wrth ymyl y gamfa, ac mae mam yn siwr o dalu'n dda i chwi."
"Buasai yn dda gennyf gael dod, ond mae'n rhaid i mi fynd i chwilio am helyg i nhad. Mae ganddo ddwy fasged i'w gorffen erbyn nos yfory, ac nid oedd ganddo ond rhyw ddyrnaid o wïail pan oeddwn yn cychwyn. Ond croeso i chwi ddod hefo mi. Beth yw eich enw? Caradog yw fy enw i."
Fel yr oedd Hywel yn hysbysu iddo ei enw, y mae rhyw sŵn ar y dde iddynt yn peri i'r ddau droi i'r cyfeiriad hwnnw, a gwelent yn cerdded yn gyflym tuag atynt ddyn bychan, mor fychan yn wir, fel mewn ambell i le yr oedd y gwellt uched a'i ysgwydd. Os nad oedd Caradog yn edrych yn syn pan welodd Hywel, yr oedd gymaint o syndod yn wyneb y ddau a'i gilydd pan yn edrych ar y dyn bychan yn nesu atynt. Ac nid rhyfedd. Yr oedd ei faint a'i wisg mor wahanol i ddim welsant erioed o'r blaen. Yr oedd ei wisg fel pe wedi