Tudalen:Dros y Gamfa.djvu/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tyfu amdano, nid oedd fymryn rhy fawr na mymryn rhy fach, ac nid oedd ond ei ddwylaw a'i wyneb nad oedd wedi ei guddio ganddi. Yr oedd o'r un lliw a gwellt a dail y coed, a phan yn sefyll yn llonydd, gellid tybio mai rhyw fath o welltyn neu goeden fychan ydoedd. Pan welodd y bechgyn ef, aethant i sefyll yn dynn at ei gilydd, a hawdd canfod ar eu hwynebau eu bod yn teimlo yn grynedig ac ofnus. Ond nid oedd iâs o ofn i'w weled yn wyneb y dyn bychan gwyrdd. Edrychai mor dalog a phe bai yn gawr. A chyn dweyd yr un gair wrth y bechgyn, na phrin edrych arnynt, aeth i fyny at y goeden, lle'r bu Caradog yn hongian, ac edrychodd hi i fyny ac i lawr yn ofalus, gan deimlo amryw o'r dail oedd yn ei gyrraedd a'u harogli. Ac meddai Caradog yn ddistaw yng nghlust Hywel,—

"Peidiwch a deyd mod i wedi cael singlan ar y goeden yna."

"Wna i ddim. Gobeithio na fedr o ddim ffeindio."

Ar hynny y mae y dyn bychan yn neidio i'r gangen y bu Caradog yn siglo arni, ac yn myned ar ei hyd gerfydd ei ddwylaw i'w bôn, ac wedi boddloni ei hunan, mae'n debig nad oedd ronyn gwaeth, y mae'n neidio i lawr ac yn dod i ymyl y bechgyn, ac yn gofyn mewn llais clir, fel cloch yn tincian,—

"Beth ydyw eich neges? Y mae gennyf hawl i'w gwybod. Y fi ydyw Tylwyth y Coed."