dim cystadledd rhwng eu cyflog a'r gwasanaeth oeddent hwy yn ei wneuthur.” "A raid i ni," ebe hwy, "fentro ein hoedlau am ffiloreg ac ambell geiniog gwta, i'ch cadw chwi yn ddiogel a difraw i ymlenwi mewn tafarnau, ddynionach musgrell segur ag ydych? Na wnawn ddim: ni fedrwn ranu arnom ein hunain."
Ac felly yn wir y gwnaethant y ffordd nesaf; canys ar ol dyfod rai miloedd o honynt drachefn o Germani, a hwy yn awr yn gweled eu hunain yn gryfion eu gwala o nifer, a chwedi heddychu â'r Brithwyr, rhuthro a wnaethant ar y trigolion, megys cynnifer o gigyddion annhrugarog yn ymbesgi ar waed, heb arbed na dyn na dynes, na boneddig na gwreng, nac hen nac iefanc. Nid oedd o gylch Tafwysg, Caint, a Llundain, a'r wlad oddi amgylch hyd at Rydychain (ac ni chyrhaeddodd crafangau plant y felldith[1] ddim llawer pellach), ddim ond yr wbwb gwyllt, ac oernad, ac ymdrabaeddu mewn gwaed, a drychau tosturus y meirw. Ac ar lan Hafren, o Gaerloew i'r Amwythig, ac oddi yno tua Chaerlleon Gawr, yr oedd y Brithwyr hwythau, rhai â chleddyfau, rhai ấ gwaewffyn, rhai â chigweiniau, a rhai â bwyeill daufiniog, yn dieneidio ac yn difrodi mor ysgeler a phan y bo llifeiriant disymmwth gan gafod twrwf yn ysgubo gyda'r ffrwd, ac yn gyru bendramwnwgl dai a daiar, deri a da, a pha beth bynag ag a fo ar ei ffordd: felly nid oedd ond drychau marwolaeth a distryw o'r dwyrain hyd y gorllewin. Y trefydd a'r dinasoedd oeddent yn fflamio hyd entrych awyr; yr eglwysydd a'r monachlogydd a losgwyd hefyd â thân, ac a fwriwyd i lawr yn gandryll. Ac o herwydd mai yno gan mwyaf y ciliodd y gwŷr İlên, yr esgobion, yr offeiriaid, a gweinidogion crefydd, megys i gynnifer dinas noddfa (ond ni wnai y barbariaid ysgeler ddim rhagor rhwng lle cyssegredig a beudy), yr esgobion, yr offeiriaid, &c., a ferthyrwyd megys ereill, lle y byddai eu haelodau yn gymmysg blith draphlith â thalpau chwilfriw yr adeilad! Y rhai a laddwyd ar wyneb y maes a adawyd yno yn grugiau draw ac yma, naill ai i bryfedu a drewi, neu fod yn borthiant i'r cŵn a'r bleiddiau, ac adar ysglyfaeth! Ar air, preswylwyr y fro a ferthyrwyd agos drwy bob cantref yn Lloegr, ond y sawl a allodd ddianc, yng nghyd ag ychydig luniaeth, i'r ogofäu a'r anialwch. Ond gwŷr blaenau gwlad a'r mynydd—dir a ymgadwasant heb nemawr o daro, ond a gawsant o gyffro.
- ↑ Ferocissimi Saxones Deo hominibusque invisi. Gild. p. 20.