Wedi i'r ffeilstion digred, plant y fall, o'r diwedd flino lladd a llosgi, y rhan fwyaf o honynt (ausier am ba achos) a ddychwelasant adref i Germani. [1] Tybia rhai mai yr achos o'u myned mor ddisymmwth i dir eu gwlad, oedd, rhag y buasai sawyr y celaneddau meirw y rhai a adawsant yn bentyrau ar wyneb y maes, heb feddrod, beri afiechyd, a bod yn bla iddynt; ond barn ereill yw, iddynt lwytho eu cylla cigfreinig yn rhy dyn, ac iddynt ddewis, er mwyn cael eu cynnefinol iechyd, fyned adref dros ennyd i dir eu gwlad, er cael budd a llesâd y fôr-wybr. Y naill neu'r llall oedd yn ddilys ddigon yr achos, neu ond odid bob un o'r ddau, sef drygsawr y celaneddau, ac ymlenwi nes bod yn dordyn. Ond myned adref yn ddiammheu a wnaethant; a chyn belled ag y gellir casglu oddi wrth hen hanesion, hwy a arosasant gartref bum mlynedd neu chwech cyn eu dyfod drachefn i Ynys Brydain. Canys yn y flwyddyn o oedran Crist 449, y gwahoddwyd hwy gyntaf drosodd: o gylch deng mlynedd y buont yn weision cyflog yng ngwasanaeth y Brytaniaid i ymladd drosynt, cyn iddynt yn felltigedig dori eu hammod a rhuthro arnynt; ac nid oes dim son am danynt mwyach nes y flwyddyn 465. Ond boed hyny fel y myno, wedi i weddillion y Brytaniaid ymgynnull o'r tyllau ar ol y lladdfa echrydus uchod, a galw yn egnïol ar Dduw am ei gymhorth, difreinio Gwrtheyrn a wnaethant (ac nid oedd efe ond trawsfeddiannwr ar y cyntaf); a gosod y goron ar ben câr iddo a wnaethant a elwid Gwrthefyr, yr hwn, am ei fod yn wr arafaidd a duwiol, ac eto yn llawn calondid, a gyfenwir Gwrthefyr Fendigaid.
Ar eu gwaith yn bwrw heibio Gwrtheyrn o fod yn frenin, mab iddo a elwid Pascen, o'i lid a'i chwerwder yn gweled gwr arall yn gwisgo coron y deyrnas, a ymadawodd â'r wlad, ac a aeth (Suddas bradychus ag oedd!) yn union at y Seison, a chymmodi a wnaeth efe â hwy, a myned yn un—gar unesgar. A'r bradwr hwnw (a bradwr o hyd a fu distryw Brydain) a fu, ond odid, yr achos penaf o'u dyfodiad y waith hon i Frydain, i ddial y sarhâd o ddifreinio ei dad. Ond gwell a fuasai iddo ef a hwythau fod yn llonydd; canys am y brenin duwiol Gwrthefyr, cymmaint oedd yr enw am dano wedi ymdaenu ar led, fel y bu hoff gan galonau holl ieuenctyd y deyrnas ddwyn arfau dano: ac yntef a osodes ar y llu, yn nesaf
- ↑ Cum recessissent domum crudelissimi prædones. Gild. Ep. p. 22.