Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/102

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ato ei hun mewn awdurdod a gallu wr graslawn a elwid Emrys Benaur, tad yr hwn, yng nghyd â'r rhan fwyaf o'i gyfneseifiaid, a laddwyd yn y mwrdra creulawn a soniwyd am dano uchod. A gwr rhagorol oedd hwn hefyd; canys heb law ei fod yn rhyfelwr enwog, efe " a rodiodd o flaen Duw mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon," ac eto fel llew i ymladd dros fraint ei wlad a'r Eglwys Gatholig. Ac a hwy â'u hymddiried yn yr Arglwydd Dduw, ac yn glynu wrtho â'u holl galon a'u holl enaid, ar waith y ddwy gad yn bloeddio i'r frwydr, Emrys a weddïodd ar yr Arglwydd â'i holl egni; ac yno y ddau lu a ergydiasant yn ffyrnig y naill at y llall, a buan y cuddiwyd y maes â chelaneddau y clwyfus a'r meirw. Emrys, o hono ef, oedd ar farch rhygyngog yn gyru megys mellten o restr i restr, i osod calon yn ei wŷr rhag bod neb o honynt yn llaesu ac yn troi ei gefn ar y gelynion; a thrwy borth Duw, y Brytaniaid a ennillasant y maes, [1] a'u gelynion a wasgarwyd; rhai yn ffoi gyda'r Brithwyr i Isgoed Celyddon, neu Ysgotland, ac ereill i dir eu gwlad y tu draw i'r môr. O gylch y flwyddyn o oedran Crist 465 y bu hyny.

Er ennill y maes ar y gwŷr arfog, a'u hymlid ymaith, eto chwith fu gan y Brytaniaid ruthro ar y gwragedd a'r plant a adawodd y Seison ar eu hol; ond eu gadael a wnaethant i fyw yn llonydd yn y wlad. Ond " Ond "gwneler cymmwynas i ddyn drwg, ac efe a dâl y mawr ddrwg am dano:" ymgoledded dyn sarff yn ei fynwes, ac efe a fydd debyg o gael ei frathu; ac medd hen ddiareb, "Cos din taiog, ac efe a g—ch yn dy ddwrn." Ac felly yma Rhonwen hithau, y Seisones, merch Hengist, a gordderchwraig Gwrtheyrn, yn lle bod yn ddiolchgar am y tiriondeb a'r ffafr a ddangoswyd iddi hi a'i heiddo, a osododd ei synwyr ar waith i wenwyno y brenin da, Gwrthefyr Fendigaid; a thuag at ddwyn ei hystryw uffernol i ben, hi a roddes yr hanner o'r holl drysor a'r a feddai hi yn y byd, i lanc o ysbryd eofn ac ysgeler a elwid Ebissa; ac yntef a ymrithiodd megys garddwr, ac ar foregwaith tra yr oedd y brenin yn rhodio yn ei ardd, y bradwr du a'i hanrhegodd â thusw o flodau briallu, â mwg gwenwyn marwol wedi anadlu arnynt.[2] Ac yno pan gydnabu Gwrthefyr ddarfod ei wenwyno (ond y bradwr a ddiangodd ymaith yn ddystaw at Rhonwen), "efe a barodd alw ei holl dywysogion ato, a chynghori a orug

  1. Queis [Sc. Britannis] victoria, Domino annuente, cessit. Gild. p. 23.
  2. Ms. Hist. vet. Membranâ scrip