a thrywanu y nesaf ato, a hyny gyda chyn lleied o dosturi a phan y bo cigydd yn gollwng gwaed mochyn. Ychwaneg na thri chant o bendefigion a goreuon y deyrnas a ferthyrwyd yn dra mileinig, yn y wledd waedlyd hòno ar ddydd calan Mai. Ond Eidiol, iarll Caerloew, a ddiangodd yn ddidaro, o nerth trosol a gafas efe dan ei draed, ac â'r trosol hwnw, efe a laddodd ddeng wr a thrigain[1] o blant y fall, y Seison; canys gwr glew oedd hwnw. Er nad oedd ganddo ond trosol, eto ni a welwn wirio hen ddiareb, "Ni ddiffyg arf ar was gwych.' Ac medd diareb arall, "Glew a fydd llew hyd yn llwyd." Y flwyddyn o oedran Crist 472 y bu hyny.
Fe ddamweiniodd i mi weled un o'r cyllyll hirion hyny, ac un hagr hell oedd hi. Y llafn oedd yng nghylch saith modfedd o hyd, ac yn chwaneg na hanner modfedd o led, ac yn ddaufiniog bum modfedd o'r saith. Ei charn oedd elephant [a] a manylwaith cywrain arno, a llun benyw noeth â bwl crwn yn y llaw aswy, a'r llaw ddeheu ar ben ei chlun. Ac yr oedd llun gwas ieuanc wrth y tu deheu o honi â'r haul o amgylch ei ben. Ei gwain oedd elephant hefyd, wedi ei gweithio yn gywrain iawn. Ac meddant hwy, yr oedd y gyllell hon yn un o'r rhai fu gan y Seison yn lladd penaethiaid y Cymry. "Gwae ddydd annedwydd anwir!
Gwae rhag yr hell gyllell hir!
Cyllell hir cuell a llem,
Callestr-fin holl-drin hylldrem.J
"Dagr garnwen, gethern gythrawl,
Neddai ddu a naddai ddiawl.
Yn ei efail y'th luniwyd,
Dart y diawl a'i hawl ef wyd."
IOLO GOCH A'I CANT.
Wedi ymdaenu y newydd galarus o'r mwrdra hwn ar led, y werin bobl a fu agos i ammhwyllo gan ofn, megys ysgolhaig ieuanc, newydd fyned i'r ysgol, yn cyffro bob cymmal ar weled meistr gerwin yn ystwytho llanc diwaith na fyn edrych ar ei lyfr. Nid oedd y pryd hwnw gan y Brytaniaid ddim ychwaneg na saith mil o wŷr arfog, y fath ag oeddent; ac ni a allwn ddal sylw mai pobl anghall o hyd oeddent yn hyn o beth, sef yn gadael y milwyr i fyned ar wasgar ar ol iddynt hwy unwaith gael y trechaf ar eu gelynion. Beth oedd saith mil o wŷr mewn teyrnas â chymmaint o ergyd barbariaid arni? Ac yma, ar waith y llu egwan hwnw, heb
- ↑ Gwel yr hanes am gedyrn Dafydd, 2 Sam. xxiii.