yn awr un uchel gadben o wr profiadol calonog yn flaenor arnynt (canys Emrys Benaur a ddiswyddwyd ar ol dyfod Gwrtheyrn i reoli eilwaith); ar eu gwaith, meddaf, yn llaeswynebu eu gelynion, hwy a sathrwyd gan y Seison, megys march rhygyngog yn tori crin-gae, neu megys y difa fflam o dân berth o eithin crin. A'r Seison yno a oresgynasant y cwbl o gylch Llundain a'r wlad o amgylch, heb feiddio o neb symmud ei dafod yn eu herbyn.
Gwrtheyrn yno, dyn pendreigl ag oedd, a aeth ar encil tua Gwynedd; ac megys Saul yn ei gyfyngdra yn ymgynghori â'r ddewines o Endor (1 Sam. xxviii.), felly yntef a ymgynghorodd â'i ddoethion (gwŷr ond odid ddim callach nag yntef) yng nghylch pa beth oedd oreu wneuthur yn y fath adfyd a chaledi. A'u barn hwy oedd yn un a chytûn, i adeiladu castell o fewn Eryri, fel y caffent ryw breswylfa ddiogel mewn lle anial allan o olwg y byd. Ond cymmaint a adefledid y dydd (os gwir yw'r chwedl) a syrthiai yn y nos; ac ni ellid mewn modd yn y byd beri i'r gwaith sefyll. A'r brenin a ymofynodd a'r dewiniaid, a'i ddeuddeg prif—fardd, ond ni fedrent beth i ateb. "Ond," ebe un o honynt ag ychydig fwy o synwyr pen ynddo nag yn y lleill, "dywedwn rywbeth ammhosibl i fod, rhag na bo anair i'r dewiniaid." Felly, ym mhen ychydig, megys pe buasent wedi hylldremio ar y planedau, adrodd a wnaethant, "Pe caid gwaed mab heb dad iddo, a phe cymmysgid hwnw â'r dwfr a'r calch, fe saif y gwaith.' "Garw yw eich chwedl," ebe Gwrtheyrn; ac yn gall ei wala yn hyn, megys ym mhob beth arall, efe a anfonodd swyddogion i bob man o Gymru (canys yng Nghymru yr oedd ganddo awdurdod eto) i ymofyn pa le y ganesid un mab heb dad iddo. A gwedi tramwyo gan mwyaf yr holl ardaloedd er cryn ddifyrwch i'r bobl, y daeth dau o honynt i dref a elwid Caerfyrddin, ac ym mhorth y ddinas, y clywent ddau lanc ieuainc yn ymdaeru: enw'r naill oedd Myrddin, a Dunawd y llall. Ebe Dunawd wrth Myrddin, "Pa achos yr ymrysoni di â myfi? canys dyn tyngedfenol wyt ti, heb dad, a minnau sydd o lin breninol o ran tad a mam." "Boed wir dy chwedl," ebe'r cenadon yno wrth eu gilydd, ac a aethont at faer y dref i ddangos eu hawdurdod i ddwyn Myrddin a'i fam at y brenin i Wynedd. Gwedi eu dyfod ger bron, Gwrtheyrn a ofynodd mab i bwy oedd y llanc. A'i fam a atebodd, mai hyhi oedd ei fam, ond nas gwyddai hi pwy oedd ei dad. "Pafodd y gall hyny fod?" ebe'r brenin. "Un