ferch oeddwn," ebe hi, "i frenin Dyfed; fy nhad a'm rhoddes i yn fynaches yng Nghaerfyrddin; ac fel yr oeddwn yn cysgu ryw noswaith rhwng fy nghyfeillesau, mi a dybiwn yn fy hun fod rhyw was ieuanc tecaf yn y byd yn ymgydio â mi, eithr pan ddihunais, nid oedd yno namyn fi a'm cyfeillesau; a'r amser hwnw y beichiogais i, ac a ganwyd y mab rhacw: ac i'm cyffes i Dduw, ni bu i mi achos gwr ond hyny." A rhyfeddu a wnaeth y brenin yn fawr i glywed hyny," ac a archodd ddwyn Meugain ddewin ato, ac a ofynodd iddo, a allai hyny fod. "Gall, O frenin," eb efe, ac a draethodd ei resymau, y fath ag oeddent, i brofi hyny. [1] Y brenin ar hyny a ddywad wrth Myrddin, "Y mae yn rhaid i mi gael dy waed." "Pa les a wna fy ngwaed i mwy na gwaed dyn arall ?" ebe Myrddin. "Am ddywedyd o'm deuddeg prif-fardd y pair dy waed di i'r gwaith sefyll yn dragywydd," ebe'r brenin. A Myrddin yno a ofynodd i'r dewiniaid am yr achos ag oedd yn llestair ac yn rhwystro'r gwaith; a phryd nas gallasant roddi ateb iddo, efe a'u galwodd yn dwyllwyr a bradwyr celwyddog. "Yr achos na saif y gwaith," eb efe, "yw, am fod llynclyn dan wadn yr adeilad." A phan wrth ei arch ef, y cloddiwyd y ddaiar oddi tanodd, fe gafwyd llynclyn yno yn ddilys ddigon, megys yr oedd efe yn barnu ym mlaen llaw. Y brenin ar hyny a anrhydeddodd Fyrddin, ond a barodd ladd y deuddeg prif—fardd, am eu bod yn dwyllwyr ac yn cymmeryd arnynt y peth ni wyddent. Y mae eu beddau i'w gweled yno hyd heddyw, yn adnabyddus wrth enw Beddau'r Dewiniaid.
Gwrtheyrn a symmudodd oddi yno i Ddeheubarth, i lan Teifi; ac mewn lle anial yng nghanol creigydd a mynydd-dir yr adeiladodd fath o gastell, yr hwn yn ddiau oedd y pryd hwnw mewn lle anghyfannedd ddigon, ym mhell allan o glybod a golwg y byd. Ond nid er dyben crefyddol y dewisodd efe fyned fel hyn ar encil; o blegid efe, dyn diras ag oedd, megys Ahab yntef, y gwaethaf o freninoedd Israel, "a ymwerthodd i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd." (1 Bren. xxi: 20.) Heb law ei holl ffieidd-dra arall, efe a halogodd ei ferch ei hun, [2] o'r hon y ganwyd iddo fab. Ond ni adawodd Duw mo'r fath ddireidi ysgeler yn hir,