ei phen, gwelodd froga yn neidio yn wisgi o honi, ac megys yn ei lon-gyfarch ac yn erchi iddo wneyd prawf o'r elfen ym mha un yr oedd efe yn bywiolaethu mor gysurus. Deallodd yr offeiriad claf oddi wrth hyn nad allai dim gwenwynllyd fod yn y dwr; cymmerodd galon ac yfodd ddracht dda o honi, yr hyn a wnaeth eilwaith mewn ychydig amser. Mewn tipyn teimlodd ei ystymog yn adfywio, a chwant bwyd yn codi arno; o'r fynyd hòno dechreuodd ei wellâd-ymrodd i yfed y dwr; ac yn fuan daeth yn holl-iach. Dyma ddechreuad enwogrwydd Llanwrtyd. Bu hyn, fel y dywedwyd o'r blaen, yn y flwyddyn 1732. Mae rhyw draddodiad fod y Ffynnon wedi bod mewn enwogrwydd mawr ddau neu dri chan mlynedd cyn hyn; ond nis gallwn gredu hyn yn rhwydd; canys pe gwir hyn, rhyfedd iawn i bawb golli pob gwybodaeth o'i rhinweddau.
Yn y flwyddyn 1767, yr ymadawodd y Parch. Theophilus Evans â'r byd hwn; ei ŵyr Theophilus Jones a fu fyw hyd y flwyddyn 1812. Claddwyd hwynt ill dau ym mynwent Llangammarch.
Yng ngwlad Brychan, fel y gwelwn, y dechreuodd Theophilus Evans ei weinidogaeth, ac yn yr un ardal y bywiolaethodd wedi hyny hyd ei fedd. Dywedir wrthym mai'r peth a'i tynodd yno gyntaf oedd y cyfeillgarwch oedd yn hanfodi rhwng Gwyniaid y Garth, pobl fawr yn Sir Frycheiniog, â'r Llwydiaid, hen fonedd, y penaf, coeliwn, yr amser hwnw, yn Sir Aberteifi, llys pa rai oedd Plas Maes y Felin, ger Llanbedr Pont Stephan. Eu dylanwad hwy a berodd i fab Pen y Wenallt, yr hwn oedd wedi cyhoeddi yr argraffiad cyntaf o'r Drych o ddeutu dwy flynedd cyn iddo gael ei urddo, i ymsefydlu yn Sir Frycheiniog. Bu Theophilus yn