Ysgotland, lle y gadawodd efe y Seison gyda'u cydwladwyr, y rhai a arbedodd Emrys Benaur, ac a ganiataodd eu hoedl iddynt ar ddeisyfiad Dyfrig, Archesgob Caerlleon ar Wysg. Am dano ei hun, gydag yng nghylch hanner cant o wŷr ei wlad, efe a hwyliodd i'r Iwerddon, o'r lle yr oedd efe yn dysgwyl ychwaneg o gymhorth oddi wrth Gilamwri, un o freninoedd yr ynys hòno. Cilamwri a'i derbyniodd ef yn anrhydeddus, ac a adawodd iddo gael saith mil o wŷr dewisol i fordwyo gydag ef i Frydain. Pascen a'i lu a diriodd yn Aberdaugleddeu, ym Mhenfro; ac oddi yno y cerddodd yn y blaen yn llidiog (megys arthes yn ymgynddeiriogi wedi colli ei chenawon), gan ddifa a dinystrio y cwbl, tua Chaerfyrddin, glan Tywi, ac oddi yno i Aberhonddu a glan Wysg, hyd at Fôr Hafren.
Emrys, brenin y Brytaniaid, yn y cyfamser oedd yn glaf yng Nghaerwent; ac hyfryd iawn oedd y newydd yng nghlustiau Pascen, ac a ddymunasai o eigion calon ei fod efe mewn rhyw le arall nag yn nhir y rhai byw. Ac yno neidio wnaeth y diawl i galon Pascen, a dyfalu ffordd i ladd y brenin; ac fe wyddai eisys fod ganddo Sais yn ei gymdeithas (Eppa oedd ei enw) o gystal un at y fath orchwyl ag a fu erioed yn ysgoldy Belzebub. Yr oedd efe yn deall y iaith Gymraeg, yn ryw ychydig o feddyg, ac yn ddyn dewr ystrywgar hefyd. Ac fel y bai efe fod yn fradwr hollol, efe a ymrithiodd megys offeiriad, ac eto yn deall meddyginiaeth. "Wele yn awr,' ebe Pascen wrtho, "dos a llwydda; a gwybydd fyned yn ebrwydd at y Seison, i Isgoed Celyddon, ar ol gwneuthur o honot dy orchwyl: a danfon air ataf finnau." Y Sais, mewn rhith gwr crefyddol, ac yn un yn deall meddyginiaeth, a gas fynediad yn hawdd i lys y brenin, ac a roddes iddo ddïod o lysiau a gasglodd efe o'r ardd, yng ngŵydd pawb; ond efe yn ddirgel a gymmysgodd wenwyn â hi, ac o fesur cam a cham a ddiflanodd o'r golwg; a phrin y gorphwysodd efe yn iawn nes myned â'r newydd at ei gydwladwyr i Isgoed Celyddon, a'u hannog i wisgo eu harfau. Dydd du yn ei wyneb, a phob bradwr cas megys yntef!
Fe ddywedir i seren, a phaladr iddi, anfeidrol ei maint, ac yn echrydus yr olwg, ymddangos i Uthr Bendragon, ar y mynyd y bu farw Emrys ei frawd. A phan oedd Uthr, a phawb o'r rhai oedd gydag ef, yn ofni wrth edrych ar y fath weledigaeth, yno Myrddin a ddywedodd, "O genedl y Brytan-