Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaid! yn awr yr ydych chwi yn weddw o Emrys: y colled ni ellir ei ennill; ac er hyny nid ydych yn ymddifad o frenin; canys ti a fyddi frenin, Uthr; brysia, di, ymladd â'th elynion; canys ti a orfyddi arnynt, ac a fyddi feddiannus ar yr ynys hon: a thydi a arwyddocâ y seren a welaist ti." [1]

Uthr Bendragon yno a goronwyd ar ffrwst; ac ar y fath amser terfysgus a hwn, nid oedd dim cyfle nac adeg i lawer o sermoni a rhialltwch; canys yr oedd Eppa, mab Hengist, wedi perswadio ei gydwladwyr, y Seison, eu bod hwy yn awryn rhydd oddi wrth y llw a gymmerasant i Emrys Benaur. "Beth!" eb efe, "ai gwneuthur cydwybod yr ydych o ffol eiriau ffiloreg? Emrys nid yw mwy; mi a roddais gwpanaid iddo i'ch rhyddhau o'r llw a wnaethoch iddo ef. Gan hyny, gwisgwch am danoch eich arfau; yr ŷm ni yma, o honom ein hunain yn llu cadarn; a Phascen yntef sydd â llu owŷr dewisol tua Chaerlleon ar Wysg. Y mae'r Brytaniaid wedi digaloni; wele holl gyfoeth Ynys Brydain yn wobr o'n gwroldeb." [2] Nid oedd dim achos wrth lawer o araith: yr oedd y gwŷr â'u cydwybod yn ystwyth ddigon i lyncu llw a'i chwydu allan, pan fyddai hyny at eu tro. Felly, a hwy yn awr yn llu mawr erchyll, wedi ymgaledu mewn drygioni, ac mor chwannog i dywallt gwaed a difrodi ag yw haid o gigfrain gwancus yn gwibio am ysglyfaeth, cymmeryd eu cyrch a wnaethant, gan ladd a dinystrio, i gyffwrdd â Phascen, yr hwn, erbyn hyny, oedd wedi treiddio Môr Hafren, tua Chaer Bristo. Uthr Bendragon o hono yntef a wnaeth ei ran gystal ag oedd bosibl yn y fath amgylchiadau cyfyng; canys efe a ddanfonodd bedwar rhingyll, un i Gerniw, un i'r Gogledd, un tua Rhydychain, a Llundain, ac un i Gymru, yng nghyd â llythyrau at y gwŷr mawr, i godi gwŷr, bob un yn ei fro a'i ardal, i achub y deyrnas rhag bod yn ysglyfaeth i'r fath elynion a bradwyr annhrugarog. Pa gynnorthwy a ddaeth o Loegr, ni wyddys; ond o Gymru y daeth rhyw arglwydd mawr a elwid Nathan Llwyd,[3] a phum mil o wŷr dewisol gydag ef. Ac ymgyfarfod oll a wnaethant ar dwyn, ger llaw Caerbaddon, neu'r Bath, yng ngwlad yr Haf; sef Pascen Fradwr a'i wŷr, y Seison hwythau dan Eppa a Cherdig, dau ben capten y llu; ac o'r tu arall, Uthr Bendragon a'i luoedd, a Nathan Llwyd a'i wŷr o Gymru.

  1. Galf. lib. viii. c. 15.
  2. M.S. vet.
  3. In Chronice. Sax, nominatus Nathanleod; de quo doctus Camd. plane de irat. Brit. p. 114, ed. noviss.