mysg eu hunain;[1] canys ar ol iddynt gael preswylfa ddiogel, a llonyddwch oddi wrth eu gelynion o amgylch, ymroddi a wnaethant i bob aflendid ac anwiredd, gormodedd a meddwdod, anudon a dywedyd celwydd, megys pe buasent yn beiddio Duw, a dywedyd, "Ni fynwn ni ddim o'th gyfraith." Ond yn anad un drwg arall, y gwŷr mawr yn enwedig a ymroisant yn ddigydwybod i bob aflendid a godineb, yr hyn a barodd eu bod yn cynllwyn am waed, yn mwrddro eu gilydd, ac yn difrodi dros gydol y deyrnas, yn waeth eto er y lles cyffredin nag un gelyn amlwg, neu estron pellenig. Ac ym mysg amryw ddrygau ereill, beth a wnaeth rhai mewn gwŷn fyrbwyll a chynddaredd o lid, ond gollwng penaethiaid y Seison o'r carchar; y rhai, cyn gynted ag y cawsant eu traed yn rhyddion, brysio a wnaethant i dir eu gwlad, sef i Sermania, ac adrodd wrth eu cydwladwyr, er iddynt, "digon gwir, gael y gwaethaf wrth ymladd â'r Brytaniaid lawer tro, megys y mae hynt rhyfel yn ansicr, eto nid oedd hyny ond eisieu ychwaneg o ddwylaw, ac nid eisieu na chalondid na chyfrwysdra, wrth fel y gwelwn ni bethau yn dygwydd; eto," ebe hwy, "nid allwn lai na chredu oni bydd Ynys Brydain ryw bryd neu gilydd ym meddiant y Seison, ac ond odid cyn y bo hir; canys yn awr," ebe hwy, "nid oes dim ond yr annhrefn wyllt dros wyneb yr holl wlad. Gadewch iddynt i ladd eu gilydd oni flinont; ysgafnaf gyd fydd ein gwaith y tro nesaf."
Nid neb ond goreuon y Seison, eu captenaid, a swyddogion eu lluoedd, a ddiangasant y pryd hwnw o garchar, a myned i dir eu gwlad i Sermania. Tuag at am yr ysgraglach bach y werin sawdwyr, ni charcharwyd mo honynt hwy; eithr (a hwy heb un pen arnynt) a wnaethpwyd yn gaethweision i'r Brytaniaid. Ond er hyny, yr oedd y natur ddrwg yn brydio yn y rhai hyn, megys ag yn eu gwŷr mawr. Chwennych yr oeddent i godi mewn arfau, lladd eu meistraid, a bwyta brasder y wlad, ond eu bod yn ofni fod y Brytaniaid yn rhy galed iddynt megys y gwelwch chwi bedwar neu bump o gorgwn yn dilyn y sawr at furgyn, os dygwydd fod yno waedgi neu ddau yn ciniawa eisys, yna y corgwn, er cymmaint a fo eu chwant, a safant o hirbell, gan edrych o yma draw, heb feiddio peri aflonyddwch idd eu goreuon. Ond er bod eu gallu yn
- ↑ Cessantibus licet externis bellis, sed non civilibus. Gild. p. 23. Vid. ilid fusius usque ad p. 30.