wlad, ac yn distrywio y ffordd y cerddent. Pa gymmaint o wŷr arfog a ddaeth yng nghyd ar wŷs y Brenin Arthur, ni wyddys yn sicr; ond y mae yn ddilys ddiammheu nad oedd yma agos ddigon i wynebu y gelynion yn y maes. Ambell ysgarmes frwd yn wir, a fu, ac ambell ymgipris a chynllwyn; ond y Seison oedd drechaf, ac yn ymgreuloni yn dra ffyrnig. Y Brenin Arthur yno, ar ol ymgynghori â'i arglwyddi, a ddanfonodd lythyr gydag Owen ab Urien Rheged, at Hywel, Brenin Llydaw, [1] ei nai fab chwaer, i ddeisyf porth ganddo yn erbyn y gelynion. Dyma i chwi eiriau'r llythyr: [2]–
"Arthur, Brenin Brydain, at Hywel, Brenin Llydaw, yn anfon anerch. Y barbariaid anystywallt, y Seison, sy fyth yn gormesu yn dra ysgeler yn ein teyrnas. Hwy a gyflogwyd ar y cyntaf, fel y mae yn ysbys ddigon i'ch mawredd, i ymladd drosom; eithr hwynt—hwy, yn lle bod yn wasanaethyddion, a fynant fod yn feistraid, yn erbyn pob gwirionedd a chyfiawnder. Ein cais ni, gan hyny, gâr anwyl, yw, ar deilyngu o honoch ddanfon yn borth i ni wyth mil o wŷr dewisol; ac y mae fy hyder ar Dduw, y bydd yn fy ngallu innau, ym mhen ychydig, wneyd attaledigaeth i chwi. Eich câr diffuant,
ARTHUR, BRENIN BRYDAIN."
Y nai, fel gwir Gristion teimladwy, a wnaeth fwy eto nag oedd ei ewythr yn geisio ganddo; canys efe a anfones yn garedig ddeng mil o wŷr; a gwŷr glewion yn wir a dewr oeddent. Y fath gymhorth a hwn a adfywiodd galon Arthur a'i Frytaniaid; ac yn ebrwydd y bu ysgarmes greulawn ac ymladdfa waedlyd, yr hon a barhaodd, agos yn ddiorphwys, dros dri diwrnod a thair nos. Ac er bod Arthur yn rhyfelwr enwog o'i febyd, ac hefyd ei wŷr yn llawn calondid ac egni i ymladd dros eu gwlad, eto y mae yn rhaid addef y gwir, hi a fu galed ddigon arnynt y waith hon. Mor ffyrnig oedd y Seison i gadw craff yn eu trawsfeddiant anghyfiawn, megys ag y drylliwyd blaenfyddin y Brytaniaid, y dydd cyntaf, a'r Seison yn eu herlid yn archolledig, nes lladd cannoedd o honynt; ond Cattwr, Iarll Cerniw, a'u hymchwelodd drachefn, a mil o wŷr meirch a thair mil o wŷr traed gydag ef. Y rhyfel a drymhaodd yr ail ddydd; ac Arthur o serch at ei genedl, a ddibrisiodd ei einioes gymmaint, megys yr aeth efe i ganol y frwydr, ym mysg ei elynion, â'i gleddyf noeth yn ei