Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/118

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn allan o'r eingion, hwnw fydd frenin cyfiawn i Ynys Brydain." A phan wybu y pendefigion a'r offeiriaid hyny, hwy a roisant y gogoniant i Dduw. A rhai o honynt a brofasant i dynu y cleddyf allan, ond nis gallent. A dywedodd yr offeiriaid wrthynt nad oedd yno neb yn deilwng i wisgo coron y deyrnas. Ond Arthur a ymaflodd yn y cleddyf, ac a'i tynodd allan yn ddirwystr.

Y fath chwedlau a'r rhai hyn ac amryw o'u cyffelyb ynt gymmaint yn anfoddloni rhai dynion, megys y beiddiant daeru yn safnrwth eu gwala na fu erioed y fath frenin ag Arthur. Ond ni ddylid gwadu gwirionedd amlwg, er ei fod wedi ei drwsio â hen chwedlau ofer. Dyn allan o berfedd ei gof a fyddai hwnw a daerai na chododd yr haul erioed, o herwydd ei bod yn fachlud haul pan yr ynfydai efe hyny. Ac y mae mor ddilys ddiammheu fod y fath frenin ag Arthur a bod Alecsander; er fod hanes bywyd y naill a'r llall wedi eu cymmalu â hen chwedlau. Canys (1) y mae beirdd yr oes hòno yn crybwyll am dano yn eu pennillion. Mi a adroddais o'r blaen awdl o waith Taliesin: clywch un arall o waith Llywarch Hen:—

"Yn llongborth llas i Arthur
Gwŷr dewr, cymmynent â dur,
Amherawdr, llywiawdr llafur."

Barn rhai yw mai Llanborth, o fewn plwyf Penbryn, yng Ngheredigion, yw'r lle a eilw'r bardd Llongborth, yr hyn nid yw annhebyg i fod yn wir. Mae lle yn gyfagos yno a elwir yn gyffredin, Maesglas; ond yr hen enw yw Maes y Llas, neu Maes Galanas; ac yno, drwy bob tebygoliaeth, y lladdwyd rhai o wŷr Arthur drwy fradwriaeth Medrod. Y mae man arall yn y gymmydogaeth, o fewn plwyf Penbryn, a elwir Perth Gereint, lle wrth bob tebygoliaeth y claddwyd Geraint, yr hwn oedd uchel gadben llongau Arthur, ac a laddwyd yn Llongborth, megys y cân yr un hen fardd godidog, Llywarch Hen:

"Yn Llongborth y llas Gereint,
Gwr dewr a goettir Dyfneint,
Hwynt—hwy yn lladd, gyd as lleddeint."

(2) Heb law hyn, fe gafwyd beddrod Arthur yn niwedd teyrnasiad y brenin Harri yr Ail, o gylch y flwyddyn un mil un cant pedwar ugain a naw; a'r geiriau hyn oeddent argraffedig ar groes blwm, yr hon oedd wedi hoelio wrth yr ysgrîn,