gyfaill gwresog i deulu y Garth tra bu byw. Dyma'r lle goreu, ef allai, i roi gair bach i mewn yng nghylch Theophilus Jones. Yr ydym wedi gweled iddo dreulio llawer o'i faboed gyda'i dadcu; ond lled ieuanc oedd pan y bu'r Ficer farw. Fe ymddengys i Mr Jones gymmeryd sylw neillduol o'r diweddar enwog hynafiaethydd ac ysgrifenydd, y Parch. Thomas Price (Carnhuanawe), awdwr "Hanes Cymru," pan oedd yn fachgenyn. Rhoes Carnhuanawc, pan yn yr ysgol Ramadegol yn Aberhonddu, gynnorthwy i Mr Jones tuag at ei "Hanes Sir Frycheiniog," gyda golwg ar hanesion amryw leoedd a theuluoedd.[1] Felly y mae Theophilus Jones fel rhyw dorch gyssylltiadol rhwng yr hen haneswr a anwyd yn y ddwyfed ganrif ar bymtheg a'r enwog Carnhuanawc, yr hwn mewn cymhariaeth sydd ond wedi newydd lithro i'r ceufedd! Yr oedd yn ddiau gan Theophilus Jones lawer i ddywedyd am ei dadcu wrth Carnhuanawc, ac yr oedd yn ddiammheu gan Carnhuanawc lawer i adrodd am y ddau. Dywedir mai wrth wrando ar Herodotus yn adrodd ei Histori yn gyhoeddus y cyffrowyd ysbryd ac awyddfryd Thucydides i ysgrifenu hanes o'r un fath. Yn yr un modd, ef allai, mai darllen "Drych y Prif Oesoedd" a gynhyrfodd ym mab Ficer Llanwrthwl yr ysbryd hynafiaethol ac ymchwiliadol a'i gwnaeth yn Garnhuanawc. Ond rhaid ymattal â'r pen hwn a myned ym mlaen.
'Drych y Prif[2] Oesoedd" a ymddangosodd gyntaf yn 1716; ail argraffiad o hono, gyda llawer o ychwanegiadau, a gyhoeddwyd yn 1740. Yng nghylch yr un amser, cyhoeddodd ein hawdwr lyfr arall, o dan yr enw "Pwyll y Pader," sef