Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/121

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y wlad y tu hwnt i Fristo, a elwir Cerniw, [1] lle yr arosasant fyth wedyn, ond bod y iaith wedi darfod yn awr yn llwyr, oddi eithr ryw ychydig mewn naw neu ddeg o blwyfau. Ac er gwahanu yr hen Frytaniaid oddi wrth eu gilydd, sefi Lydaw, a Cherniw, a Chymru, eto llawer gwaith y gwnaethant ymgais i hyrddu ymaith y gelynion, a bod yn ben drachefn; ond gormod o ymorchest oedd hyny, ac uwch ben eu gallu; megys pan fo neidr wedi ei thori yn dair darn, e fydd pob darn glwyfus dros encyd yn gwingo, ond eto heb allu byth ymgydio drachefn. Y sawl a chwennycho hanes gyflawn am helynt tywysogion Cymru, darllened Gronicl Caradog o Lancarfan. Ar y cyntaf, un tywysog a reolai Gymru oll; ond Rhodri Mawr, yr hwn a ddechreuodd ei deyrnasiad yn y flwyddyn 843, a ranodd Gymru yn dair rhan, rhwng ei dri maib. Gosododd un yng Ngwynedd, yr ail ym Mhowys, a'r trydydd yn Neheubarth. Breninllys Tywysog Gwynedd oedd Aberffraw, ym Mon. Palas Tywysog Powys oedd ym Mathrafael; a phen cyfeistedd Tywysog Deheubarth ydoedd Castell Dinefwr, ar lan Tywi. Am hyn o beth y cân Dafydd Nanmor, yr hwn a ysgrifenodd o gylch y flwyddyn 1450.

"Tri Maib i Rodri mewn tremyn—eu câd
Cadell, 'Narawd, Merfyn,
Rhanu wnaeth yr hyn oedd un
Rhoddiad, holl Gymru rhy' ddyn'.

Wyth cant llawn a'i w'rantu,―pen rhinwedd,
Pan rhanwyd holl Gymru;
A saith deg llawn waneg Ilu,
Eisoes oedd oed yr Iesu.

"Rhanodd a gadodd er gwell,—dawn ufudd,
Dinefwr i Gadell,
Y mab hynaf o'i 'stafell,
Penaf o wŷr, pwy un well?

"Anarawd, gwastawd dan go',—yn gyfan
A gafas Aberffro,
A daioni Duw yno,
Fe biau breiniau a bro.

"Gwir, gwir a ddywedir i ddyn,—paun iefanc,
Powys gafas Merfyn:
Llyna'r modd yr adroddyn'.
Treiir rhwng y tri wŷr hyn."


  1. Y mae'r wlad hon i'w gweled oddi ar amryw dwynau ym Morganwg, ac a elwir Cerniw, o blegid ei bod o'r un ddelw â chern, a'r môr o amgylch.