Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/122

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Amcan Rhodri Mawr yn hyn o beth oedd er diogelwch a chadernid Cymru; fel a hwy yn gyd-dylwyth yng Ngwynedd a Deheubarth, y gallent ddyfod fel brodyr; ac o byddai raid, gydymgynnull eu lluoedd yn erbyn y Seison. Ond hi a ddygwyddodd yn llwyr wrthwyneb; canys benben yr aethant o hyny allan, fel prin y gwladychodd un tywysog heb ymgecraeth a llawer o dywallt gwaed.

Yr enwocaf o holl Dywysogion Cymru oedd Hywel Dda, yr hwn a ddechreuodd ei deyrnasiad yn y flwyddyn 940. Efe a drefnodd gyfreithiau da i'w cadw drwy holl Gymru, y rhai a arferid gan mwyaf hyd yn amser Harri y Seithfed, Brenin Lloegr, ac ŵyr i Owen Tudur, o Ynys Fon. "Pan welodd Hywel," ebe'r cronicl, "gam arfer defodau ei wlad, efe a anfones am Archesgob Ty Ddewi, a'r holl esgobion ereill a oeddent yng Nghymru, a'r holl brif eglwyswyr a oedd danynt, y rhai oeddent i gyd yn saith ugain; ac hefyd holl arglwyddi, baryniaid, a phendefigion y wlad. Ac yna y parodd i chwech o'r rhai doethaf o honynt, ym mhob cymmwd, ddyfod ger ei fron ef yn ei lys, yn y Ty Gwyn ar Daf, lle y daeth efe ei hunan, ac a arosodd yno gyda'i bendefigion, esgobion, eglwyswyr, a'i ddeiliaid, drwy'r Grawys, mewn ympryd a gweddïau am gymhorth yr Ysbryd Glan, modd y gallai adferu ac adgyweirio cyfreithiau a defodau gwlad Cymru, er anrhydedd i Dduw, ac er llywodraethu y bobloedd mewn heddwch a chyfiawnder. Ac ym mhen diwedd y Grawys, efe a ddetholodd ddeuddeg o'r rhai doethaf o'r cwbl, gyda'r doctor enwog o'r gyfraith, Blegwyryd, gwr doeth dysgedig iawn; ac a orchymmynodd iddynt chwilio yn fanwl holl gyfreithiau a defodau Cymru, a chynnull allan y rhai oeddent fuddiol, ac esboni y rhai oeddent dywyll ac ammhëus, a diddymu y rhai oeddent arddigonaidd. Ac felly yr ordeiniodd efe dair ryw ar gyfraith: sef yn gyntaf, cyfraith yng nghylch llywodraeth y llys, a theulu'r tywysog: yr ail yng nghylch y cyfoeth cyffredinol; a'r drydedd yng nghylch y prif ddefodau a breiniau neillduol. Ac yna, gwedi eu darllen a'u cyhoeddi, y perys efe ysgrifenu tri llyfr o'r gyfraith: sef un i'w arfer yn wastadol yn ei lys; yr ail i'w gadw yn ei lys yn Aberffraw: a'r trydydd yn llys Dinefwr; modd y gallai y tair talaeth eu harfer a'u mynychu pan fyddai achosion. Ac i gymhell ufudd-dod iddynt, efe a berys i'r archesgob gyhoeddi ysgymmundod yn erbyn y sawl oll