Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/123

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'u gwrthladdai hwynt. Yma y canlyn rhyw ychydigyn o honi:

"Barnwr a ddylai wrando yn llwyr, dysgu yn graff, dadganu yn wâr, a barnu yn drugarog. A llyma yr oed y dylyir gwneuthur dyn yn farnwr, pan fo pum mlwydd ar hugaint oed. Sef yr achos yw hyny, wrth na bydd cyflawn o synwyr a dysg hyd pan fo barf arno: ac ni bydd gwr neb hyd pan ddêl barf arno; ac nid teg gweled mab yn barnu ar wr hen. "Rheidus a gerddo dair tref, a naw ty ym mhob tref, heb gael na chardod na gwestfa, er ei ddal â'i ladrad ymborth gantho, ni chrogir.

"A oes dau frodyr, y rhai ni ddylyant gael mwy na rhan un brawd un dad un fam? Oes. O genir dau fab yn un dorllwyth y wraig, ni ddylai y ddau hyny, eithr rhan un etifedd.

"O derfydd fod ymryson, pwy a ddylyai warchadw etifedd, cyn y dêl i oedran gwr, ai cenedl ei fam ai cenedl ei dad. Cyfraith a ddywed mai gwr o genedl ei fam a ddylai, rhag i neb o genedl ei dad wneuthur brad am y tir, neu ei wenwyno. "Os ymrwym gwraig wrth wr, heb gynghor ei chenedl, y plant a ynnillir o hòno ni chânt ran o dir gan genedl eu mam o gyfraith.

Tri dyn sy enaid faddeu (h.y., euog o farwolaeth), ac ni ellir eu prynu: bradwr arglwydd, a dyn a laddo arall yn ffyrnig, a lleidr cyfaddef am werth mwy na phedair ceiniog.

"Os gwr a gwraig a ysgarant cyn pen y saith mlynedd, taler iddi ei hegweddi,[1] a'i hargyffreu,[2] a'i chowyll,[3] os yn forwyn y daeth hi. Ond os cyn pen y saith mlynedd yr ymedy hi â’i gwr, hi a gyll y cwbl ond ei chowyll.

"O derfydd bod dau ddyn yn cerdded drwy goed, ac esgynio gwrysgen ar lygad yr olaf gan y blaenaf, onis rhybuddia, taled iddo am ei lygad os cyll; ac os rhybuddia, ni thâl ddim. O derfydd bod dau yn cerdded ffordd, a chaffael o'r naill denot; os y blaenaf a'i caiff, rhaned â'r olaf; os yr olaf a'i caiff, nis rhan â'r blaenaf.

"Ni pherthyn dau boen am yr un weithred.

"Y neb a ddyweto air garw neu air hagr wrth y brenin, taled gamlwrw i'r brenin.

Pwy bynag a gwyno rhag arall, ac a fo gwell ganddo dewi na chanlyn, cenad yw iddo dewi, a thaled gamlwrw[4] i'r brenin; ac yn oes y brenin hwnw ni wrandawer.

  1. Gwaddol.
  2. Dodrefn ty.
  3. Dillad priodas.
  4. Dirwy, fforffed, neu ffein.