Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/125

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddynt ufuddhau i'w lywodraeth ef a bod yn ddeiliaid i goron Loegr. Ond yna yr atebasant, nad ymostyngent hwy fyth i neb, ond i un o'u cenedl eu hun; ac y byddai raid i hwnw fod o ymarweddiad da, ac heb air o Seisoneg ganddo. Ac yno y brenin, pan ddeallodd na thyciai mo eu bygylu, a ddychymmygodd ffalsder i'w siomi. Canys yn y cyfamser yr oedd gwraig y brenin yn feichiog, ac efe a'i danfones hi i dref Caernarfon i esgor. A phan anwyd iddi fachgen, y danfonodd Edward yn gyfrwys ei wala at benaethiaid y Cymry, gan ofyn iddynt a oeddent o'r un bwriad ag o'r blaen; a hwy a ddywedasant eu bod. "O'r goreu," ebe Edward, "mi a enwaf i chwi dywysog o'r cynneddfau pa rai yr ydych chwi yn ewyllysio. Ganwyd i mi fab yng Nghaernarfon, a hwnw a gaiff fod yn dywysog i chwi. Un ydyw ni ŵyr air o Seisoneg, ac nid all fod dim bai ar ei fywyd a'i fuchedd." Prin y buont fodlawn i dderbyn y baban; eto yn lled ddiflas, megys rhai yn yfed diod wermwd, cytuno a wnaethant: ac o hyny allan y cyfenwyd mab hynaf Brenin Lloegr, "Tywysog Cymru." Llywelyn ab Gruffydd a ryfelodd ar unwaith â holl gadernid Lloegr ac Iwerddon, ar fôr ac ar dir. Efe a soddes longau'r Gwyddelod, ac a yrodd Brenin Lloegr, a'i fab, a'i holl lu, ar ffo[1]. Ond yr hwn nid allodd holl gadernid Lloegr ac Iwerddon ei orthrechu, a gwympodd drwy frad yn ei wlad ei hun. Felly derwen fawr, breninbren y tyddyn, a saif yn ddigyffro yn erbyn ystorm, ond diffaethwr ger llaw a'i bwr hi i lawr â'i fwyall. Efe a fradychwyd ym Muallt, ar ddydd Gwener, 11fed o Ragfyr, yn y flwyddyn 1282. Ei ben a osodwyd ar ben pawl haiarn, ar dŵr Llundain, a'i gorff a gladdwyd mewn lle a enwyd o hyny allan, "Cefn y Bedd." Ond pa fan enwedigol y mae ei feddrod ni ŵyr neb o'r trigolion presennol.

"Pob cantref, pob tref yn treiddiaw,
Pob tylwyth, pob llwyth y sy'n llithraw;
Pob mab yn ei grud y sy'n udaw;
Bychan lles oedd im' am fy nhwyllaw,
Gadael pen arnaf, heb ben arnaw;
Pen pan las oedd lesach peidiaw;
Pen milwr, pen moliant rhagllaw;
Pen dragon, pen draig oedd arnaw;
Pen Llywelyn deg, dygna braw
I'r byd fod pawl haiarn trwyddaw."

GRUFFYDD AB YR YNAD COCH A'I CANT.

  1. Powel's Chron. p. 322.