Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

esboniad neu gomment ar Weddi yr Arglwydd, mewn amryw bregethau. O ddeutu pymtheg mlynedd cyn ei farwolaeth, cyhoeddodd yn Seisoneg, "Hanes Penboethni Diweddar" (History of Modern Enthusiasm); ail argraffiad o ba un a ymddangosodd mewn ychydig o flynyddau. Dygwydd mawr yn awr yw cwrdd â "Phwyll y Pader" a "Hanes Penboethni Diweddar," gan fod llawer o amser wedi myned heibio er pan argraffwyd hwynt. Y mae yr offeiriad, yn yr Hanes, yn trin sectariaid o bob math yn dra llym; ond y mae yn dwyn ym mlaen eu hawdwyr hwy eu hunain i ddangos eu hegwyddorion. Cymmaint a hyna am "Bwyll y Pader" a "Hanes Penboethni Diweddar."

Heb law y gweithiau uchod, gwelwn y cyhoeddiadau canlynol o dan ddwylaw ein hawdwr, yn llechres werthfawr casglydd selog, diwyd, a medrus "Llyfryddiaeth y Cymry," Parch. Wm. Rowlands:—

"Galwedigaeth ddifrifol i'r Crynwyr, i'w gwahawdd hwy i ddychwelyd i Grist'nogaeth." Cyfieithad. Mwythig, 1715. 8plyg.

Mae yn gyssylltedig â'r "Meddyliau Neillduol ar Grefydd," gan yr Esgob Beveridge, o gyfieithad Iago ab Dewi, 'Bedwar Englyn o folawd i'r Llyfr,' gan Theophilus Evans. 1717.

"Prydferthwch Sangcteiddrwydd yn y Weddi Gyffredin, mewn pedair Pregeth o waith y Parch. Thos. Bisse, D.D." Cyfieithad. Mwythig, 1722.

"Llythyr Addysc Esgob Llundain at y Bobl o'i Esgobaeth." Cyfieithad. Caerloew, 1740. Yr Argraffydd oedd Raikes, sylfaenydd y gyfundrefn o Ysgolion Sul. Llyfryn yn erbyn Whitfield a'i ganlynwyr oedd hwn.

"Gwth i Iuddew." Pregeth. Mwythig, 1752.

"Drych y Dyn Maleisus." Pregeth. Mwythig, 1752.