saith planed, ac hefyd ddyddiau yr wythnos, ar enwau y rhai enwocaf o honynt; megys dydd Sul,[1] dydd Llun,[2] dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn.
Ac yma, pe y dywedwn mai Cymry oedd y duwiau hyn, y rhai oedd Ewrop ac Asia yn eu haddoli, yn amser yr anwybodaeth gynt, mi wn eisys y bydd rhai yn barod i chwerthin yn eu dwrn, a dywedyd, "Nid yw hyn ddim ond ffiloreg." Ond gan fod genyf awdurdod y gwirionedd i sefyll o'm blaen, mi a ddywedaf yn hy mai Cymry oeddent. Cymro oedd Sadwrn, Cymro oedd Iupter, Cymro oedd Mercurius, Cymry oedd y lleill. Nid wyf fi ddim yn dywedyd mai Cymry oeddent o'r wlad hon; nac wyf: mi wn well pethau; ond gwŷr oeddent o hiliogaeth Gomer, o'r un ach â'n Cymry ninnau, ac yn siarad yr un iaith. Ac yn wir y mae eu henwau (pe delid craff ar hyny) yn ysbysu yn eglur o ba genedl y maent; canys nid ynt na Lladin, na Groeg, ond Cymraeg lân loew. Sadwrn yw gwr nerthol o fraich i ryfela; ei wir enw yw Sawd-dwrn. Ei wraig a elwid Rhea, ac yn Gymraeg ddilediaith Rhiain. Eu mab a elwid Iupiter; ond yn Gymraeg Iou, neu Iefan, o blegid efe oedd yr ieuengaf o feibion ei dad. Enw ei wraig oedd Iuno: hyny yw, Ioan, neu Suan. Mars, neu Mavors, oedd y gau dduw a gyfrifid yn ymgoleddwr y gwŷr arfog yn rhyfela, a'i enw Cymraeg yw Mawr-rwysg. Mercurius oedd dduw eu teithiau, a'i wir enw yw Marchwr. Apollo oedd Dduw yn cyfranu doethineb i ddynion, a'i gywir enw yw Ab y Pwyll; neu, fel y dywedai yr hen bobl, Y Poell. Diana oedd dduwies diweireb a gonestrwydd, a'i gwir enw yw Dianaf. Fenus oedd dduwies y cariad, a'i henw ar y cyntaf oedd Gwen.[3] Y neb a dybio mai chwedlau gwneuthur yw y rhai hyn, darllened, atolwg, waith y Doctor dysgedig Pezron[4] (gwr o Lydaw, o deyrnas Ffainc); ac os gall efe ateb ei resymau a'i awdurdod ef (yr hyn nis gallodd neb eto), o'r goreu; os amgen na farned arnaf fi. Cymmaint a hyn am eu duwiau.
Eu hoffeiriaid a elwid gynt yn yr hen iaith, y Druidion, neu y Derwyddon, am eu bod, megys cenedloedd ereill o gylch Ierwsalem, yn aberthu i'r eilunod, mewn llwyni o goed, yn enwedig dan gysgod deri cauadfrig. (Ezec. vi. 13. Hos. iv. 13.) Gwŷr dysgedig a gwybodol oedd y rhai hyn, ac yn