Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/131

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

farnwyr mewn achosion dadl ac ymryson, yn gystal ag yn offeiriaid mewn perthynasau crefydd. Felly, a hwy yn farnwyr ac yn offeiriaid, y mae yn hawdd barnu mai hwy oedd pen dysgedigion y deyrnas; a'u barn a gyfrifid mor ddidueddol a chywir, fel nad oedd rydd i'r pendefig mwyaf o fewn y deyrnas lai na sefyll wrthi. Ac os rhyw un cyndyn a beidiai ymostwng, efe a ysgymmunid allan o law, a'i gymdeithas a ochelid fel petai'r pla arno. Hwynt-hwy oedd yn ysgrifenu hanesion a bywyd eu breninoedd; a pha beth bynag hynod a ddygwyddai ar fôr, ar dir, ac ar y wybr. Ond am y gelfyddyd y dysgent eu dysgyblion ynddi, ni chynnygient osod hyny ar bapyr, rhag i'r athrawiaeth fyned yn gyffredin a diystyr. Eu gwŷr iefainc a ddysgent mewn astronomi a chwrs y planedau; yng nghylch maintioli'r byd; yng nghylch mor gywrain oedd pob aelod a chymmal wedi ei osod mewn dyn ac anifail; yng nghylch natur a rhywogaeth llysiau; ac yn fyr, yng nghylch pob peth a elwir philosophi. Yr oeddent yn maentumio anfarwoldeb yr enaid; ond hyn oedd eu camsyniad: eu barn hwy oedd, fod yr enaid, ar ol ei ymadawiad â'r corff, yn myned i ysbrydoli rhyw un arall;[1] a'r athrawiaeth hon a bregethasant yn ddwys i annog eu gwrandawyr i wroldeb a syberwyd moesau; drwy beri iddynt gredu y byddai eu heneidiau yn y to nesaf mewn arglwyddi a phendefigion. Pa un ai bod yn ddewiniaid, nis gwn i; ond y mae yn ddilys fod y cyffredin yn coelio hyn am danynt, megys y tystia hen ddiareb, "Nis gŵyr namyn Duw a dewinion byd, a diwyd Dderwyddon." Y mae yn ddiammheu eu bod yn cymmeryd poen afrifed yn dysgu y gelfyddyd i'w dysgyblion; canys ni chyfrifid neb yn athrawon nes eu bod 15, ïe a rhai 20, mlynedd yn astudio. Heb law pethau ereill, hwy a ddysgent, ar dafod leferydd, filoedd a miloedd o bennillion ac odlau. Tybia Mr. Edward Llwyd, ac ni wni pwy a wyddai well, mai y mesura elwir " Englyn Milwr" oedd mesur eu pennillion. Mi a chwanegaf yma rai o honynt, hen yn ddiammheu, os nid gwir odlau y Derwyddon eu hun. Ond gwybydder nad yw y ddwy fraich gyntaf ond megys geiriau llanw; yr olaf sy'n cynnwys ynddi ystyr y chwedl:—

"Marchwiail bedw briglas
A dyn fy nhroed o wanas:
Nac addef dy rin i was.


  1. Non interire animas, sed ab aliis post mortem transire ad alios. Cæs. lib. 6, p. 107.