Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/132

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Marchwiail derw mwyn llwyn,
A dyn fy nhroed o gadwyn:
Nac addef dy rin i forwyn.

"Marchwiail delw deiliar
A dyn fy nhroed o garchar:
Nac addef dy rin i lafar.

"Eiry mynydd, pysg yn rhyd ,
Cyrchai Carw Cilgrwm Cwmelyd:
Hiraeth am farw ni weryd.

"Eira mynydd gwynt a'i tawl ,
Llydan lloergan glas tafawl:
Odid dyn diriaid di hawl."

"Dywed rhai mai eiddo y Derwyddon yw'r modrwyau gwydr a elwir "glain y nadroedd," a bod eu dysgyblion yn eu gwerthu i'r bobl cyffredin, i'w gwisgo megys swyn-gyfaredd rhag aflwydd. Nid ychydig o orfoledd a fyddai gan y Derwyddon i gael derwen lle y byddai y llysieuyn a elwir "Uchel-wydd"[1] yn tyfu, am eu bod yn barnu mai ffafr y duwiau oedd cael y fath. Eu seremoni ar hyny a fyddai: (1.) Ddyfod at y pren dan ganu, ym mhen chwe diwrnod ar ol newid y lleuad: (2.) Yr offeiriad a ddringai ac a dorai y llysieuyn â bilwg aur, tra y byddai ereill obry ar y llawr yn ei dderbyn mewn arffedog wen: (3.) Yno fe ddygid dau fustach, gwyn i gyd oll, difai dianaf, ac a'u haberthid ar uchaf cromlech. A'r cyfryw aberth a dybid yn swyn-gyfaredd odidog rhag gwenwyn, a haint, ac anffrwythlondeb.[2]

Ond yr aberth goreu a dybiasant a ryngai fodd y duwiau oedd drwg weithredwyr y rhai oedd cyfraith y tir wedi eu gadael i farw, megys mwrddwyr a lladron. Hwy a gedwid yn garcharorion mewn cistfeini (y rhai sydd i'w gweled mewn amryw fanau eto yng Nghymru) nes cael oedfa i alw yng nghyd yr holl wlad i weled eu haberthu. Yn awr, cistfaen yw gwâl, neu loches, a wneir o chwech careg, megys prenfol, neu gist; sef un gareg waelod, o gylch saith neu wyth troedfedd o hyd, dwy bob ochr, un wrth bob pen, ac un fawr arall yn glawr. Y fath gistfaen a hon yw Ty Illtyd, ar ben twyn, yn Llanhamlwch, ger llaw Aberhonddu; Carn Lechart, o fewn plwyf Llangyfelach, ym Morganwg: Gwâl y Filast, o fewn plwyf Llanboidy, is law Caerfyrddin; y Gromlech, ym mhlwyf Nyfern, yn rhandir Penfro; Llech yr Ast, ym mhlwyf Llan-

  1. Viscus quercinus, Mistletoe.
  2. Samme's Britan. Antiq. vol. 1, c. 7, p. 104. Plin. 1. 16, c. 44.