goedmor, ger llaw Aberteifi; Ceryg y Gwyddel, ym mhlwyf Llangristiolus, yn Ynys Fon; Carchar Cynrig Rhwth, ym mhlwyf Ceryg y Druidon, yn sir Dinbych; ac amryw fanau ereill nas gwn i oddi wrthynt. Yn awr pan y byddai llawer o ddrwg weithredwyr wedi eu condemnio, y Derwyddon a roddent orchymmyn i wneuthur aberth-eilun, i aberthu i'r duwiau. Yr aberth-eilun yma a wnaed ar lun dyn, eithr aruthrol o faint, o gangau coed, a'i freichiau a'i draed ar led; ac a sicrheid megys bwbach mawr, yn y ddaiar, ger llaw i ryw garnedd. Ac yno y carcharorion a ddygid allan o'u cistfeini, ac a sicrheid wrth raffau, yma ac acw, wrth y clofenau; ac yn ddiattreg y cynneuid tân oddi tan y bwbach, i rostio y drwg weithredwyr yn fyw. A hon oedd yr aberth oreu, yn ol eu barn hwy, a ryngai fodd y duwiau.[1] Ambell waith yn wir, pan na byddai ond un neu ddau, y drwg weithredwyr a aberthid ar allor, ger llaw y gistfaen; ac odid un gistfaen, onid oes yno garnedd a chromlech, neu allor, ger llaw.
Ar nos galan Mai y cynneuid tân ar ben pob carnedd drwy'r ynys, lle y byddai un o'r Derwyddon, yng nghyd â'r bobl o'r gymmydogaeth hòno, yn aberthu i'r tadolion dduwiau, er cael rhad a bendith ar gnwd y ddaiar; ac ar nos galan Gauaf y gwnaed yr un peth, er talu diolch, wedi cael cnwd Ꭹ ddaiar yng nghyd. Ar y ddau amser hyn yr oedd pawb, o ba radd bynag, yn rhwymedig i ddiffodd y tân yn eu haelwydydd; a than benyd ysgymmundod, i ailennyn ef â thewyn oddi wrth y carneddau.
Yn Ynys Fon, yn anad un lle arall o fewn yr holl deyrnas, yr oedd eisteddfod benaf yr hen Dderwyddon, megys y mae rhai o weddillion eu crefydd i'w gweled hyd heddyw, er yn rhwygiedig ac yn gandryll; megys amryw garneddau, cistfeini, ac allorau. Ac hefyd amryw o enwau lleoedd, hyd y dydd hwn, sydd yn cadw coffadwriaeth eu hen feistraid, megys Tre'r Dryw, yng nghwmmwd Mene, ac o'i amgylch megys tair troed trybedd, Bod y Druidion, Bod Owyr, a Thre'r Beirdd. Yn Nhre'r Dryw yr oedd Pendog y Druidion yn trigo, canys yr oedd un yn ben ar y lleill, megys yn Bab, neu Archoffeiriad. Yn Ꭹ lle a elwir Bod y Druidion yr oedd Dinas y Derwyddon, y nesaf mewn awdurdod ato. Ym Mod Owyr yr oedd yr Ofyddion, y rhai, yn benaf dim, a astudient
- ↑ Cæs. de Bell. Gall. 1. 6, p. 107.