gyddfau a'u harddyrnau. Yn y modd hwn yr ymdrwsiodd Buddug,[1] y frenines ddewr hòno, yr hon a ymladdodd â'r Rhufeiniaid, o gylch y flwyddyn o oedran Crist 62, ac a laddodd ddeng mil a thrigain o honynt. Yr oedd am dani dabar symmudliw, torch aur am ei gwddf, a'i gwallt melyn yn taenu dros ei hysgwyddau hyd ei sodlau. Fe gafwyd un o'r tyrch aur yma wrth gloddio mewn gardd, ger llaw Harlech, ym Merionydd, yn y flwyddyn 1692.
Erbyn hyn y mae yn amlwg y deallent waith gof, pan y medrent wneuthur y fath gynnilwaith a thyrch aur; megys y mae taclusrwydd eu cerbydau yn dangos y medrent waith saer coed. Eu medrusrwydd mewn gwaith saer maen, eu hamryw bentrefydd a'u caerau, ac aml balasau eu pendefigion, sydd yn tystio. Ac heb law hyny, yr oedd yma 28 o ddinasoedd caerog yn yr hen amser gynt, ac ym mhob un o honynt y byddai Druid yn farnwr, neu ynad. Ni wyddys yn dda pa rai ydynt, ond fod Llundain, Caerwrangon, Rhydychain, Caerloew, Caerlleon ar Wysg, a Chaerfyrddin, yn ddilys ddigon o fewn y nifer. Yr wyf yn gwybod o'r goreu fod rhai yn haeru nad oedd gan yr hen Frytaniaid ddim dinasoedd caerog oll cyn dyfod y Rhufeiniaid i'r wlad hon. Nid oedd adeilad y cyffredin, yn wir, ddim ond bythau, neu bleth o wiail wedi ei adail a lwfer yn y canol, megys y mae digon o'r fath eto i'w gweled yng Nghymru. A thyna wir ystyr y gair adeilad, sef adail o wrysg neu o wiail. Ond nad oedd yma ddim amgen adeilad yn yr hen amser, yw peth nad all neb ei brofi allan o hen hanesion. Pe buasai ym Mrydain ddim ond bythau a phared gwiail, byth ni ddywedasai Iul Caisar, yr hwn a ysgrifenodd o gylch hanner cant o flynyddoedd cyn geni Crist, "Hominum est infinita multitudo creberrimaque aedificia, fere Gallicis consimilia." (L. 5, p. 79.)
Hynod oedd eu medrusrwydd i baentio a britho â lliwiau, yn enwedig i baentio ar eu crwyn luniau ehediaid, bwystfilod, pysgod, ac ymlusgiaid. Hyn oedd ran o wychder y gwŷr mawr; sef eu bod, o goryn y pen hyd wadn y traed, yn llawn o luniau creaduriaid byw. Math o liw glas ydoedd, ac ni wisgid mo hono byth allan, am ei fod wedi ei ollwng i mewn, â phigiad nodwydd, i'r croen. Pa un ai bod rhinwedd ynddo i gadw'r corff mewn iechyd hyny nis gwn i; ond y mae yn
- ↑ Boadicea, vid. Dio. Cass. Hist. Rom. 1. 62.