ddilys fod yr hen Frytaniaid yn byw yn aml hyd saith ugain.[1] Dyna yr achos, yn ol barn Mr. Camden, y Sais, o alw yr ynys hon gyntaf Brithtania, hyny yw, eb efe, "gwlad y dynion brithion." Yr oedd Mr. Camden, yn ddiau, yn wr dysgedig iawn; ond fe allasai, gyda gwell gweddeidd-dra, adael i'r ddychymmyg hon fyned gyda'i freuddwydion. Y gwirionedd yw hyn: efe a fynai hyrddu rhyw beth newydd i olwg y byd; ac o ganlyn llwybr ei drwyn, efe a esgorodd o'r diwedd ar y ddychymmyg eiddil hon, yn erbyn pob awdurdod a rheswm.
Mewn physigwriaeth, y mae yn debygol eu bod yn gallach na gwŷr diweddar sydd yn bostio yn ychwaneg o ddysg a gwybodaeth; canys nid arferent hwy ddim ond llysiau: ïe, ac yn gwneuthur ychwaneg o lesâd i'r cleifion â hwynt yn unig, nag y maent yn awr â'u holl gymmysg. Ym mysg doctoriaid yr oesoedd canol, Meddygon Myddfai yw y rhai mwyaf hynod; a hwynt-hwy oedd Riwallon a'i feibion, Cadwgan, a Gruffydd, ac Einion: ac yn amser Rhys Gryg yr oeddent, yng nghylch y flwyddyn 1230. Mae llyfr bychan o ysgrifen-law o'u gwaith, ac yn diweddu fel hyn: "Pwy bynag ni chymmero fwyd pan fo ei chwant arno, ei gylla a leinw o afiachwst, yr hyn a bery y gwaew yn y pen."
Crwth a thelyn oedd y gerddoriaeth benaf ym mysg yr hen bobl. Symlen ben bys oedd gainc cyffredin iawn. Lledr oedd dros wyneb y cafn; ac o achos hyny a gyfenwid y delyn ledr. Y dysgyblion a ddechreuent ganu â thannau rhawn, ac a dalent bedair ceiniog ar hugain[2] ar eu gwaith yn myned yn ben cerddwyr; canys felly y dywed y gyfraith, "Y neb a fyno ymadael â thelyn rawn, a bod yn gerddor cyweithas, pedair ar hugain a ddyly." Er hoffed oedd y gerddoriaeth gan yr hen Frytaniaid, nid oedd ei llais yng nghlustiau Dafydd ab Gwilym ond megys asgloden gwern ym mhen y gath; canys efe a ddywed,
"Ni cherais iawn-gais angerdd,
Na'i chafn botymog na'i cherdd;
Na'i cholydd sain damwain dig,
Na'i rhifant liw na'i rhyfyg.
Drwg yw dan bwyth yr wythfys,
Llun ei chroth lliain ei chrys:
Ni luniwyd ei pharwyden,
Na'i chreglais ond i Sais hen,
Sain gŵydd gloff anhoff yn yd;
Sonfawr Wyddeles ynfyd."