Yr hen Frytaniaid a eillient eu cyrff yn llwyr gwbl, ond y pen a'r wefus uchaf. Eu hymborth oedd laeth a chig; ond ni fwytäent hwy ddim cig ysgyfarnog, ieir, na gwyddau, er bod ganddynt amledd o honynt. Yr oedd bagad yn dilyn hwsmonaeth, ac yn achlesu eu tir â marl a thywod y môr, ac yn cael gwenith a haidd eu gwala; yn gwneuthur bara o'r naill a chwrw o'r llall; ac y mae ysbysrwydd goleu y medrent ddarllaw cwrw a bragod gantoedd o flynyddoedd cyn i Iul Caisar droedio ym Mrydain. Eu defod oedd i losgi cyrff y meirw, a chasglu y lludw a thalpau o'r esgyrn mewn math o ystên bridd, a'u gosod yng nghadw yn rhestrau yn y crugiau, neu'r tomenydd, y rhai sydd i'w gweled eto mewn amryw fanau. Y mae un hynod ym mhlwyf Trelech, yn rhandir Caerfyrddin, a elwir Crug y Deyrn. Y mae eu hallorau hefyd i'w gweled hyd y dydd heddyw, ar y rhai yr aberthid ambell waith ddynion; sef naill ai drwg weithredwyr, neu ynte y gelynion a ddelid yn garcharorion wrth ryfela. Y mae un nodedig i'w gweled eto ym mhlwyf Nefern, yn rhandir Penfro, a elwir Llech y Drybedd. Y gareg uchaf, neu yr allor, sydd ddeuddeg llath o gylch; ac o du gogledd fortais ynddi, i ddwyn ymaith waed yr aberth. Pa le bynag y gwelir tair o geryg mawrion wedi eu sicrhau ar eu penau yn y ddaiar, ar ddull trybedd, e fu yno allor gynt.
Y mae llawer o son am afanc y llyn, a'r ychain banog; ac ni wn i yn dda beth i'w ddywedyd am danynt. Am yr afanc, y dyb gyffredin yw, mai math o ddwfrgi go fawr llosglydan oedd efe, a elwir y "Beaver," yr hwn sydd greadur ffel dros ben, ac yn trigo yn y llynoedd a'r afonydd. Yr oedd efe yn Nheifi, yn ddiammheu, yn amser Giraldus, Archddiacon Brycheiniog, yr hwn a ysgrifenodd hanes Cymru o gylch y flwyddyn 1189, hyny yw, o gylch pum cant a hanner o flynyddoedd a aethant heibio. Ond y mae yn beth rhyfedd fod y fath chwedlau ym mysg y cyffredin bobl am dano yn awr megys pe buasai efe rhyw anghenfil o faint; ac er ei faglu â thid haiarn, nid dim ond yr ychain banog a allai ei lusgo allan o'r llyn. Ac am hyny mi a dybiwn mai afanc y llyn yw yr "Alligator," neu fath o "Grocodil," yr hwn sydd fwystfil