Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/139

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn meistroli arnynt. Ac y mae hyn mor ddilys wirionedd, megys a bod eu hanesion eu hunain yn tystio'r peth. (3.) Am y Groegiaid: nid oes dim rhyfedd fod cymmaint o gyssondeb rhyngom ni a hwy, canys Groegwr neu wr dyfod oedd Brutus; a'r un llythyrenau oedd gan ein henafiaid ni a hwythau ar y cyntaf, megys y tystia Iul Caisar, yr hwn a ysgrifenodd ei hanes o gylch hanner cant o flynyddoedd cyn geni Crist. (4.) Am y Gwyddelod: mi a brofais eisys mai pobl o'r un dorllwyth oeddem ni a hwythau o'r dechreuad: ac y mae yn ammhosibl i wybod iawn ystyr enwau afonydd, a bryniau, a gelltydd, a chwmydd, &c., heb ddeall Gwyddelaeg.

Y mae yn wir yn y iaith Gymraeg amryw eiriau o'r un ystyr a'r Seisoneg, ac yn ddiweddar y mae chwaneg beunydd yn llifeirio iddi oddi wrth y Seisoneg: ond camsynied er hyny yw tybied mai oddi wrth y Seison y cawsom ni yr holl eiriau sydd o'r un sain ac ystyr yn ein hiaith ni a hwythau; canys e fu'r Seison amryw flynyddoedd yng ngwasanaeth yr hen Frytaniaid, cyn iddynt yn felltigedig droi yn fradwyr yn eu herbyn; ac yn yr ysbaid hwnw y mae yn naturiol i gredu eu bod yn benthycio gan eu meistraid; a'r geiriau hyn a ganlyn yw ychydig allan o lawer: megys Anghwrteis, Byclau, Bargen, Cap, Cadben, Clap, Cost, Crefft, Crwper, Cwcwallt, Ceisbul, Cwpl, Cropan, Cweryl, Dart, Egr, Ffael, Ffals, Ffair, Ffol, Gran, Gronyn, Hapus, Hap, Het, Hitia, Inc, Lifrai, Llewpard, Malais, Maer, Pert, Plas, Plwm, Sad, Sadler, Siwrnai, Siop, Tasc, Tafarn, Tŵr, Turn, Tiler, Ystrýd.

Y mae'r geiriau hyn oll i'w gweled gydag amryw ereill, yng nghywyddau Dafydd ab Gwilym, yr hwn, ym marn Madog Benfras, oedd "Benial cerdd ddyfal dafawd;" ac ebe Iolo Goch am dano yn ei farwnad,

"Aed lle mae'r eang dangnef,
Ac aed y gerdd gydag ef."

Nid oedd dim hoffder yn ei amser ef, sef o gylch y flwyddyn 1380, mewn boneddig na gwreng i siarad Seisoneg, er eu bod yn deall eu gwala o Ladin, Groeg, ac Hebraeg: ac y mae e'n gwestiwn pa un ai bod Dafydd ab Gwilym, neu un offeiriad arall, neu bendefig, neu un gwr dysgedig pa un bynag, yn yr oes hono, yn deall Seisoneg, megys y gellir barnu yn dra naturiol wrth y stori nodedig hon a ganlyn: "Yr oedd pendefig urddasol o Ynys Fon, a elwid Owen Tudor, wedi priodi y