Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y Gwir Ddoethineb." Pregeth. Mwythig, 1757.

"Y Pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân." Pregeth. Mwythig, 1760.

Ni welais i, erioed, ddarllenydd anwyl, un llinell o waith y Parch. Theophilus Evans, ond cymmaint ag a ellir ei weled rhwng cloriau "Drych y Prif Oesoedd." Pe buasai genym gyfle i droi dalenau "Pwyll y Pader," neu "Hanes Penboethni," neu rai o'i Weithiau ereill, cawsem olwg mwy eang a phenderfynol o'i opiniynau a'i gyrhaeddiadau mewn difynyddiaeth; ond gallwn gasglu oddi wrth y Drych ei fod wedi cyfranogi yn helaeth o ysbryd hen enwogion y Brif Eglwys, a'i fod yn aiddgar dros burdeb athrawiaeth a dichlynder buchedd. Dywed Theophilus Jones, ei ŵyr, fod ei dadcu yn bregethwr grymus ac effeithiol, a phe na buasai genym y dystiolaeth hon, gallasem yn rhwydd gredu fod y gwr a ysgrifenodd "Ddrych y Prif Oesoedd" yn areithiwr rhwydd a gafaelgar.

Cyhoeddwyd, fel yr ydys wedi crybwyll yn barod, yr argraffiad cyntaf o "Ddrych y Prif Oesoedd " yn y flwyddyn 1716, pan nad oedd yr awdwr ond ieuanc mewn cymhariaeth. Mae yn syndod mor lleied sydd wedi ei wneyd yn y rhan hòno o lenyddiaeth yng Nghymru oddi ar hyny hyd yn awr, tra y mae'r Seison wedi eu cyfoethogi ag hanesion Gibbon a Hume, a llawer ereill, pa rai a ymddangosasant ar ol ail argraffiad y Drych.

Yr oedd awdwr y Drych yn ddios yn ysgolhaig medrus; yr oedd yn ddarllenwr diwyd; medrai ysgrifenu Lladin yn rhugl ddigon, yr hyn sydd yn gryn gamp i Gymro; yr oedd yn gyfarwydd â hen lyfrau o wahanol ieithoedd, fel yr ymddengys oddi wrth y nodau yn y Drych. Nid dywedyd rhywbeth ar