Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/141

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amser brenin Harri yr Wythfed, yr hwn oedd orwyr i OwenTudor o Fon. Ond am bethau cyffredin, y mae yr iaith agos mor ddilwgr eto, ac mor gydnabyddus a deallgar ag oedd hi er ys deuddeg cant o flynyddoedd a aethant heibio, megys y tystia y pennillion sy'n canlyn:—

"Dychymmyg di pwy Greawdwr cread cyn diluw
Creadur cadarn, heb gig, heb asgwrn;
Heb wythen, heb waed, heb ben, heb draed;
Ac ef ni aned, ac ef ni weled;
Ef ar fôr, ef ar dir, ni wyl, ni welir,
Ac ef yn anghywir, ni ddaw pan ofynir."

TALIESIN BEN BEIRDD A'I CANT I'R GWYNT,
O GYLCH Y FLWYDDYN 540.



"Mis Mawrth mawr rhyfyg adar,
Chwerw oerwynt ar ben talar,
Hwy fydd hindda na heiniar,
Hwy bery llid na galar:
Pob edn a edwyn ei gymhar;
Pob beth a ddaw drwy'r ddaiar
Ond y marw, mawr ei gyrchar!"

ANEURIN GWAWDRYDD A'I CANT,
YN LLYS MAELGWYN GWYNEDD, 510.



Afallen, bren beraf ei haeron,
A dyf yn argel yn argoed Celyddon."

MYRDDIN WYLLT A'I CANT, 570.



"Y gelain fainwen a oleuir heno
Ym mhlith pridd a thywarch;
Gwae fy llaw lladd mab Cynfarch."

LLYWARCH HEN A'I CANT, 590.





DIWEDD Y RHAN GYNTAF.