Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/142

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

DRYCH Y PRIF OESOEDD.
R HAN II.
PENNOD I.
YNG NGHYLCH PREGETHIAD YR EFENGYL DRWY YR HOLL FYD, OND
YN ENWEDIGOL YM MRYDAIN; GAN BWY, AC YM MHA AMSER.
Ar ol bod y byd o gylch dwy fil o flynyddoedd heb un gyfraith
ysgrifenedig, a dwy fil arall dan gyfraith Moses,¹ y daeth Had
y wraig i ysigo pen y sarff, ac y ganwyd ein Harglwydd a'n
Hachubwr Crist Iesu. Yr oes hon a elwir yn yr Ysgrythyr,
"Diwedd y byd," a'r "Amser diweddaf," yn gymmaint ag
mai dyna feddwl S. Paul, pan yw yn dywedyd, "Unwaith yn
niwedd y byd," hyny yw, oes yr Efengyl, "yr ymddangosodd
efe, i ddilều pechod drwy ei aberthu ei hun." (Heb. ix. 26.)
Dyma yr amser y cyflawnwyd y brophwydoliaeth hynod hòno,
a ragddywedodd Iacob am ei fab Iuda: "Nid ymedy y deyrn-
wialen o Iuda, na deddfwr oddi rhwng ei draed, hyd oni ddêl
Silo." Sef yw ystyr y geiriau, "Fe barhâ y llywodraeth
oruchel yn llwyth Iuda, hyd oni ddelai Crist yr Arglwydd;
ac yno ei deyrnwialen, hyny yw, awdurdod a breniniaeth
llwyth Iuda, a ddarfyddai byth." Hyn oll a gyflawnwyd yn
nyddiau Crist yr Arglwydd: canys yr amser hwnw y daros-
tyngodd Augustus Čaisar wlad yr Iuddewon, ac a osododd
Herod dano megys yn frenin arnynt. A'r Herod hwnw,
rhag gwrthryfela o honynt yn ei erbyn, a laddodd holl
benaethiaid yr Iuddewon, ond yn anad neb, y rhai oeddent o
waed breninol Iuda. Y mae rhagluniaeth Duw i'w ganfod
chwaneg yn y brophwydoliaeth, yn gymmaint ag mai llwyth
Iuda yn unig a ddychwelodd adref yn gyfan allan o gaethiwed
1 Vid. Uss. Chron. Sac. c. 2, p. 44, &c.