antur y mae, ond gesyd ar lawr ei awdurdod, er ef allai fod ei farn yng nghylch amryw bethau yn gamsyniol. Y mae ei ddullwedd yn fath ag y cynghorem i efrydwyr ac ysgrifenwyr ieuainc i astudio ac i efelychu; nid rhywbeth mursenaidd diflas yw, ond y mae yn rhedeg yn rhwydd ac yn naturiol, yn gymhwys i foddhau a difyru'r darllenydd yn gystal a'i addysgu. Mor fywiog ac argraffol yw ei ddysgrifiad o ddyfodiad y Rhufeiniaid. Y mae'r darllenydd yn barod i feddwl ei fod wrth ddarllen yn gweled yr hen Caisar a'i Rufeiniaid yn ymgynddeiriogi wrth ganfod mor bybyr a dewr yr oedd y Brythoniaid yn ymladd dros eu gwlad. Y mae pin yr ysgrifenydd fel yn anadlu'r digder a'r blinder a deimlai wrth feddwl am dwyll y Sacsoniaid a ffolineb y Cymry yn amser Hengist. Y mae ei hanes am athrawiaeth y Brif Eglwys, a moesau y prif Gristionogion, yn dangos ei fod yn gwerthfawrogi ac yn coleddu ysbryd yr hen dduwiolion. Yr arferion a'r defodau a osodir i lawr yn y rhan hon o'r gwaith, ydynt yn siamplau godidog i Gristionogion y dyddiau presennol.
Dyma ni ar hyn o achlysur wedi dybenu â "Drych y Prif Oesoedd." Meddiant dros byth,[1] ys dywedodd yr hen haneswr Groegaidd, yn ddiau yw i'r Cymry. Yr ydym yn ymadael ag ef ar hyn o dro fel â chydymaith hoff, ac yn ei gymmeradwyo i ti, y darllenydd, fel dyddanwch teuluaidd, i dy ddifyru, dy addysgu, a'th lesoli. Ar ol ei ddarllen, y Cymro mwyn, os dygwydd i ti byth ar dy hynt fyned trwy bentref Llangammarch, tro i mewn i'r fynwent i weled claddle Theophilus Evans. Ni chai weled yno, yn wir, golofn ardderchog o bres, neu faen o farmor gwyn cerfiedig, fel ag i ddenu sylw'r teithiwr;
- ↑ Κτῆμα ἐς ἀει.—THUCYDIDES.