Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD.

PA fodd bynag y bernir yng nghylch hyn o waith, e fu yn orchwyl llafurus i mi ei gyfansoddi. Canys nid cyfieithiad ydyw hwn, lle nid yw raid i fyfyrio dim, ond peri i'r awdur siarad iaith arall, ond pigion a gasglwyd o'r awdwyr goreu hen a diweddar a ysgrifenasant ar y testyn y mae'r llyfryn hwn yn traethu. Ac yr wyf yn tybied nad yw y fath waith a hwn yn anfuddiol ; canys wrth ddarllen yn y rhan gyntaf, chwi a gewch weled modd y bu hi, gyda'n hynafiaid o amser bwygilydd, a'r rhyfeloedd a fu rhyngddynt ag amryw genedloedd. Yma y cewch weled bortreiad amlwg o ffrwythau pechod, a'r gwahanrhedol effaith rhwng buchedd dda a dyhirwch buchedd, rhwng yr hwn a wasanaetho yr Arglwydd a'r hwn nis gwasanaetho ef." Yma y cewch weled, tra fu ein hynafiaid yn gwneuthur yn ol ewyllys yr Arglwydd, na thyciai ymgyrch un gelyn yn eu herbyn : ond pan aethant i rodio yn cynghorion, a childynrwydd eu calon ddrygionus, "Y dyeithr ag oedd yn eu mysg a ddringodd arnynt yn uchel uchel, a hwythau a ddisgynasant yn isel isel." (Deut. xxviii. 43.)

Yn yr ail ran chwi a cewch nid yn unig am hanes bregethiad yr efengyl ym Mrydain, a pha ddamwain bynag a ddygwyddodd mewn perthynas i grefydd, ond dysgyblaeth ac athrawiaeth y brif eglwys hefyd, fal y gwypid pa fodd yr oeddid yn trin pethau sanctaidd yn yr amser gwynfydedig hwnw, pan oedd crefydd yn ei phurdeb, yn ddigymmysg â dim traddodiadau ofergoelus. Ac y mae yn ddiogel genyf fod y fath orchwyl a hwn yn waith buddiol i bwy bynag a'i hystyrio yn bwyllog, yn ol cynghor yr Ysbryd Glân. "Fal hyn y dywed yr Arglwydd, sefwch ar y ffyrdd, ac edrychwch, a gofynwch am yr hen lwybrau, lle mae ffordd dda, a rhodiwch ynddi; a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau." (Ier. vi. 16. ) Ond os dywed rhai (megys y sawl y mae yr Arglwydd yn achwyn arnynt yno) "Ni rodiwn ni ynddi," bydded y perygl arnynt eu hunain.

O bydd dim peth a fynegir yma yn anfoddloni rhai, ac yn anghymmodol â gogwyddiad eu barn, gosodent y bai arnynt eu hunain, nid arnaf fi. Canys ni amcenais i y traethawd hwn i fodloni archwaeth pob math o ddynion, trwy wyrdroi gwaith y tadau i faentumio opiniynau neillduol, neu berarogli heresi trwy ddywedyd tangneddyf lle nad oedd dim; ond fy ngwir amcan i oedd dywedyd y gwirionedd yn ddiragrithiol, deued a ddelai o hyny. Ac yr wyf yn tystio (fal y mae i mi roddi cyfrif o hyny), na wyrdroais i un dystiolaeth a grybwyllir yma, trwy beri i'r awdur i siarad yn amgen nag oedd efe yn feddwl. Myfi a wyddwn mai un o'r chwech peth sydd gas gan yr Arglwydd, oedd "tyst celwyddog yn dywedyd celwydd" (Diar. vi. 19); ac na fyddai gwaith twyllodrus ond siomedigaeth aflesiol a darfodedi; ond y byddai'r gwirionedd wneuthur daioni i adeiladu, ac i barhau byth ; canys "gwefus gwirionedd a saif byth; ond tafod celwyddog ni saif fynyd awr." (Diar. xii. 19.) Ond er hyny, e fydd rhai ar antur yn petrusaw roddi coel i'r cwbl a adroddir yma, rhag na welais i yr holl awdwyr a grybwyllir yn y llyfr hwn, ond eu cymmeryd ar onestrwydd hwn ac arall sydd yn crybwyll dim o honynt. Yr wyf yn ateb, pan ymosodais gyntaf yng nghylch y gwaith hwn, dyna'r ffordd yn wir a gymmerais: pan welwn enw un o dadau yr eglwys, tybiais fod hyny yn ddigonol, ac nad oedd ond gwaith afreidiol i mi ymofyn am ychwaneg o eglurder. Ond wedi i mi gael golwg ar waith y tadau eu hun—O brawf gresynol o anonestrwydd athrawon anghail! O fal yr oeddid yn dirdynu ac yn dadgymmalu meddwl ac ystyr y tadau! O lofruddiaeth gwaeth nag eiddo'r paganiaid eu hun; canys ni ddarfu iddynt hwy ond lladd eu cyrff, ond yr ydys yr awrhon yn darnio llafur eu heneidiau, sef y llyfrau godidog a adawsant ar eu hol! Ac yno mi a fwriedais gwrolfryd diysgog na fyddai i mi fyned dim ym mhellach y ffordd hono.

"Yr Arglwydd fydd noddfa i'r gorthrymedig ; noddfa yn amser trallod. Llawen-