Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychaf a gorfoleddaf ynot, canaf i'th enw di, y Goruchaf. O blegid ti a oleuaist fy nghanwyll. Yr Arglwydd fy Nuw a lewyrchodd fy nhywyllwch." (S. ix. 9, 2; xviii. 28.)

Ac am hyny yr wyf yn tystio i mi weled gan mwyaf yr holl awdwyr a grybwyllir yma, er nad wyf fi berchenog arnynt. Cefais rydd-did i fyned pan y mynwn i'r llyfrgell fawr odidog sy'n perthyn i ysgol rydd tref y Mwythig, lle mae yr holl goflyfrau argraffedig ag sy'n crybwyll am helynt y Brytaniaid, yng nghyd â gwaith y tadau yn gyfan-gwbl. Ac od oes yma ar antur ambell awdur nid ellais ei weled, myfi a'i cymmerais megys ag y mae gwŷr onest dysgedig yn dwyn ei dystiolaeth. Bellach, O ddarllenydd, dos rhagot yn ofn Duw, gweithia allan dy iechydwriaeth drwy ofn a dychryn, ymdrecha hardd-deg ymdrech y ffydd, eto gwybydd "na choronir neb ond y sawl a ymdrech yn gyfreithlawn." (2 Tim ii. 5.) Dos yn y blaen gan hyny, fal Cristion union-gred. "Na thwyller di â geiriau ofer." (Ephes. v. 6.) Na fydd gyfranog "â'r annysgedig a'r anwastad sydd yn gwyrdroi yr Ysgrythyrau. (2 Pet. iii. 16.) Ond megys "gwr deallus a rodia yn uniawn." (Diar. xv. 21.) Na wna "ddim yn erbyn y gwirionedd, ond tros y gwirionedd."` (2 Cor. xiií. 8.) Yr hyn ar i ti ei wneuthur yw gwir ddymuniad

Dy wasanaethwr gostyngeiddiaf,

Medi'r 12, 1716.

THEOPHILUS EVANS.


BARN MR WILIAM LEWES, O LWYNDERW, O FEWN[1] SIR GAERFYRDDIN, YNG NGHYLCH Y LLYFR HWN.

NID oes un genedl oddi fewn i Gred, nac un oddi fewn i barthau ereill y byd, ag sydd â moesau dinasol iddynt, onid oes ganddynt ryw gynenid ewyllysgarwch i wybod o ba gyff y daethant allan, a'r ymrafael ddamweiniau a ddygwyddodd i'w hynafiaid o amser bwygilydd. A'r neb a fyddai ag addysg llythyrol ganddynt a osodent y pethau hyny mewn cofysgrifen yn eu hiaith eu hun, er tragwyddol goff äu gweithredoedd eu hynafiaid, ac er cyfarwyddyd i'r to a ddeuai.

Nid allaf esgusodi (yn anad neb ryw genedl) ddiofalwch a syrthni'r Cymry yn hyn o beth; o herwydd nad oedd un o honynt a ysgrifenodd ddim o hanesion y Brytaniaid, er ys pump neu chwech cant o flynyddoedd (hyd y gwn i) yn y iaith Gymraeg, ond Mr Charles Edwards yn unig, yn y llyfr a elwir Hanes y Ffydd, yr hwn sy'n crybwyll ryw ychydig yn fyr ac yn lled dywyll yma ac acw, yng nghylch helynt ein hynafiaid, a phregethiad yr efengyl gyntaf ym Mrydain.

I gyflawnu y diofalwch a'r esgeulusdra hwn, y cymmerodd y gwr ieuanc dysgedig o Geredigion, yn Neheubarth Cymru, awdur y traethawd sy'n canlyn, y boen a'r llafur i chwilio llyfrau hen a diweddar mewn amryw ieithoedd, er gosod allan hanes gyflawn o weithredoedd yr hen Frytaniaid. A hyny a wnaeth efe mor effeithiol fal y bu hi yn achlysur llawenydd i mi weled traethawd mor ddysgedig yn dyfod allan yn ein hiaith ein hun, yr hwn sydd yn cynnwys ynddo pa beth bynag sydd fuddiol a chyfleus i wybod o ran llys a llan a ddygwyddodd i'n hynafiaid. Y mae ei drefn yn llwybraidd ac yn daclus; y mae ei iaith yn gywrain ac yn ddiledryw; y mae ei hanes yn gywir, ac yn cytuno yn berffaith â'r awdwyr a grybwyllir ynddo. Ar fyr eiriau, efe a gyfansoddwyd gyda'r fath gywreinrwydd ac uniawnder barn, fel na wn i a oes un llyfr a ysgrifenwyd mewn un iaith pa un bynag yng nghylch helynt y Brytaniaid, sydd yn ei ragori.


  1. Mywn, fywn, yw orgraff yr awdwr yn ei argraffiad cyntaf.—GOL.