Mi allwn anghwanegu yng nghylch yr angenrhaid, a'r mawr lesâd sydd oddi wrth y fath waith godidog ag ydyw'r llyfr hwn; ond pwy bynag a'i darlleno yn ystyriol, a gydnebydd trwy brofiad bodlongar. fod y cyfryw orchwyl yn cyfranu nid ychydig i ddyrchafu gwybodaeth, ac i hyfforddi dynion yng nghylch y wir ffydd a'r grefydd Gristionogol: ac yno chwi a welwch i'r awdur dysgedig wneuthur daioni nid bychar i bawb o'i gydwladwyr. Os caniatëwch, fy anwyl gydwladwyr, i dderbyn hyn o flaenffrwyth ei lafur ef yn roesawgar, chwi a'i hannogwch ef (os cenada Rhagluniaeth iechyd ac einioes iddo) i dreulio ei amser yn ewyllysgar, i'ch gwasanaethu â rhyw draethawd arall, a'r a fyddo yn fuddiol i helaethu eich gwybodaeth; yn y cyfamser, byddaf Eich gwasanaethydd caredig,
WILIAM LEWES.
In Laudem Auctoris.
Hoc opus ornatum, quod scripsit candidus auctor,
Accipiat lector, mente volente, pius.
Nil ago si laudem coner cantare laboris,
Ingeniique tui; sed liber ipse facit.
Quippe liquet nobis, nullus monstrare volumen
Quot linguâ nostrâ, nobile tale potest.
Hic liber a primâ deducit origine Cambros,
Bellorumque rubens nunc specimen specitur.
Hic quoque tractantur fidei vestigia Christi,
Gentibus his postquam notificate semel
Sæcula perque novem quodcunque bonique, malique,
Accidit, auctor habet, pandit, ubique liber.
Denique tu studiis altis (dignissime) perge,
Progressum Dominus, prosperet atque tuum.
JOHANNES BOWEN, MEDICINA PROFESSOR.
Y Pennillion uchod yn Gymraeg, o waith J. R.
DERBYN fal dyfyn difar—wych hwylus
A chalon 'wyllysgar;
Heddyw oes ged addysg wâr
Bwnc ammod heb un cymhar.
Ond gosod da glod (deg lydan—rwydeb)
Yr awdur nai thraian;
Loew a'i synwyr lwys anian:
Dull ry gaeth nid all yr gân.
Y llyfr sydd ddeunydd enwawg—ei hunan
Am hyny'n ardderchawg,
Llesol yw a lluosawg;
Addysg i'r hyddysg y rhawg.