Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddaethai i edrych noethder y wlad. Yno ar eu gwaith yn myned i'w ddienyddu ef, fe ddygwyddodd iddo (ac achos da pa ham) drwm ocheneidio, a dywedyd yn Gymraeg, "O Dduw, a ddiengais i allan o gymmaint a chymmaint o beryglon ar for ac ar dir, ac yn awr gael fy nharo yn fy nhalcen megys ci?" Ar hyny fe ddaeth y cadben ato, ac a'i cofleidiodd, ac a ddywedodd wrtho yn Gymraeg, na chai efe ddim farw; ac a fu yn wir yn gystal a'i air; canys efe a'i derbyniodd ef yn garedig, ac a'i dug ef ganddo i'r rhan hono o'r wlad a elwir Dyffryn Pant—teg, lle yr oedd ei gydwladwyr yn byw. Yno y bu Mr Jones dros bedwar mis cyfan yn fawr ei barch a'i roesaw yn eu mysg, yn siarad Cymraeg â hwy beunydd, ac yn pregethu yr efengyl dair gwaith yn yr wythnos yn y iaith Gymraeg, megys y mae yr hanes (wedi ei phrintio yn Seisoneg) yn dangos, yng nghyd ag ychydig o eglurhâd a ychwanegais i ati. [1]

Lle y dywedir yn y llyfr hwn i'r Rhufeiniaid fenthycio amryw eiriau Cymraeg oddiar y Gwylliaid, megys y geiriau Lladin terra, aer, mare, amnis, mel, mutus, &c., oddi wrth y geiriau a ganlyn yn ein hiaith ni, tir, awyr, mor, afon, mêl, mud; fe ddichon fod rhai yn mingamu, ac yn dywedyd nad yw hyn ond chwedl gwneuthur heb awdurdod: ond gwybydded y cyfryw un, fod y geiriau hyny erioed ac hyd heddyw yn iaith y Gwyddelod, lle ni chyrhaeddodd holl arfau y Rhufeiniaid; ac am hyny yn ammhosibl iddynt hwy eu benthycio ganddynt; a phrin y troseddai un oddi wrth y gwirionedd pe dywedai, fod y geiriau yma yn yr iaith Gymraeg cyn gosod sylfeini dinas Rhufain erioed. [2]

Nid oes neb yn gwadu, oni fenthyciodd yr hen Frytaniaid amryw eiriau Lladin tra fu y Rhufeiniaid yn rheoli yma, ac eto heb golli yn llwyr yr hen eiriau priodol i'r iaith. Ac yn wir yr oeddid yn cymmysgu y ddwy iaith yng nghyd yn rhy arw yn yr hen amser hwnw, megys y tystia yr ysgrifen—fedd a gafwyd yn ddiweddar yn eglwys Brynbuga, yng ngwlad Fynwy, yr hon a osodwyd yno gyntaf ym mhell cyn dyfodiad y Seison i'r deyrnas hon. Yr ysgrifen yw hon, cymmysg o Gymraeg a Lladin: Noli cloddi yr ellrhod Caerlleon, advocad llawnhaedd Llundain, a barnwr bedd breint apud Ty'n ei Aro, Ty Avale; Selif synwybr sumæ sedum Usk, val kylche deg kymmyde; doctor kymmen, lleua loer in i llawn oleuni." A hyn yw yr ystyr, yn ol barn y dysgedig, yn Lladin llawn: "Noli effodere professorem Caerlegionensem, advocatum dignissimum Londinensem, et judicem sacri privilegii apud Fanum Aaronis et Fanum Avaloniæ; Solomonem astrologum summæ civitatis Usk, tenentis circiter decem comotos; doctorem eloquentem, lunam lucidam ni plenilunio lucentem."

Nid oes genyf ddim i ddywedyd chwaneg na bod yma amryw ac amryw o bethau newydd nad oedd ddim yn yr argraffiad cyntaf; yr wyf yn tybied fod yr iaith yn awr yn rhwydd ac yn ddeallgar trwy Wynedd a Deheudir; a chwedi ei thrwsio (os harddwch yw hyny) ag amryw o gyffelybiaethau cynnefin, ac hawdd eu hystyried. Yr wyf yn gobeithio fod yr hanes oll mor gywir ac mor llawn hefyd a'r a ellir ei ddysgwyl dros yr amser yr wyf fi yn myned drosto; canys er nad yw maintioli y llyfr ond bychan, eto pe buasai wedi ei brintio â llythyrenau breision, e fuasai (o leiaf) o ddau cymmaint ei faintioli ag yw yn awr. Y fath ag ydyw, derbyniwch ef, atolwg, megys yr anrheg oreu a chywiraf o hanes yr hen Frytaniaid a feidr yr awdwr annheilwng.

THEOPHILUS EVANS.
Dydd Calan Mai, 1740.
  1. Gentleman's Magazine, March, 1740
  2. Camd. in Ordovic, p. 659, Llwyd Annot.