Gosteg o ddeuddeg Englyn Unodl Union yn unodli drwyddi.
Dos, lythyr difyr, a dyfodd—mewn brys
Myn brysur ymadrodd,
Dwg anerch draserch drosodd,
I'r Cymry, a'i rhanu'n rhodd.'
I'n gwlad o gariad y gyrodd—yr awd'r
Orwydd-deb ymadrodd,
Ddrych gweddus trefnus y trodd
Rhywiawg a rhagorodd.
Edrych yn y Drych a drodd—ar gamrau
'Rhen Gymry a'u hansodd;
Diwall mae'u dull a'u modd,
Edrych wedi'i lawn adrodd.'
Achau'r hen dadau hyn dododd—ar led
I'r wlad fe cyhoeddodd,
Y gwir heb os a ddangosodd,
A'r gau ei law draw a drodd.
Hanesion ddigon a ddygodd—i'r byd
Er bod hyny yn anodd;
Goleuad i'r wlad a ledodd,
A'r tywyll gau i'r ffau a ffodd.
Odiaeth wych helaeth y chwiliodd—y gwr
I gyrau'r hen oesoedd;
Myrdd yn ein mysg a ddysgodd,
Llwyn yw yn wir yn llawn nodd.
Rhoes addysg i'n mysg mewn modd—arbenig
Mawr boen a gymmerodd;
A phob call a'i deallodd
A'r un Drych i'r iawn a drodd.
Adgas waith diflas a daflodd—ymaith
O'i ymyl pan welodd,
A'i lân orchwyl a hwyliodd,
Mewn iaith lefn ei drefn a drodd.
Y mer yn dyner a dynodd yn llwyr
O'r llyfrau ddarllenodd,
Historiau llwyr ystyriodd
Mewn pum iaith yn faith o'i fodd.
Canant ei foliant yn filoedd—beunydd
Am y boen a gymmerodd;
Ei orchwyl pan lewyrchodd,
Llawer o drymder a drodd,
Gwelaf nas medraf ymadrodd—cymhwys
I ganmol ei ansodd,
Drwy fedru anrhegu'n rhodd,
Fawl heddyw fal y haeddodd.