DRYCH Y PRIF OESOEDD.
RHAN I.
PENNOD I.
CYFF-GENEDL Y CYMRY, A'U DYFODIAD CYNTAF I'R YNYS HON.
GWAITH mawr, ond gwaith salw a chwith, yw adrodd helynt y Cymry, eu haflwydd a'u trafferthion byd, ym mhob oes a gwlad y buont yn preswylio ynddi, er pan gymmysgwyd yr iaith yn Nhŵr Babel. Canys onid peth galarus a blin yw adrodd mor annïolchgar oeddent i Dduw, mor chwannog i wrthryfela yn ei erbyn, ac mor barod i syrthio i brofedigaeth y byd, y cnawd, a'r cythraul, yr hyn a barodd eu bod mor anffodiog ac aflwyddiannus? Ac o herwydd i'n hen deidau ninnau yfed "anwiredd fel dwfr," bu gwir y ddiareb, "Dinystr fydd i weithwyr anwiredd." (Diar. xxi. 15.) Ac felly nyni (fel amryw genedloedd eraill o'r diwedd), wedi i'n pechodau addfedu, "a adawyd yn ychydig bobl, lle yr oeddem fel ser y nefoedd o luosogrwydd: o herwydd ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw." (Deut. xxviii. 62.)
Nid oes, yn wir, un genedl dan haul wedi cadw ei gwlad a'i hiaith o'r hen amser gynt yn gyfan a dilwgr; nac oes un wedi cadw ei braint yn ddigoll ac yn ddigymmysg. Y mae'r Iuddewon er ys talm yn achwyn, "Wele ni heddyw yn weision; ac am y wlad a roddaist i'n tadau ni, i fwyta ei ffrwyth a'i daioni, wele ni yn weision ynddi." (Neh. ix. 36.) Canys y mae'r Tyrciaid wedi goresgyn gwlad Iudea, ac nid oes gan yr Iuddewon gymmaint a lled troed o feddiant ynddi. Y mae'r Groegiaid hwythau, y rhai a fuont yn yr hen amseroedd yn ben ar y byd, wedi gwasgaru (megys yr Iuddewon hwythau) hyd wyneb y gwledydd, a'u tiroedd a'u teyrnasoedd