a gafas ffafr yn ei olwg, ac a achubwyd rhag gormes y dwfr diluw mewn llong a alwn ni yr Arch.
Wedi achub Noah fel hyn, a dyfod ag efi genedlaethu to megys mewn byd arall, cydfwriadodd ei epil, ym mhen talm o amser (sef yng nghylch can mlynedd ar ol y diluw), i adeiladu "tŵr â'i nen hyd y nefoedd." (Gen. xi. 4.) [1] Mae rhai yn tybied mai yr achos a'u cymhellodd i ymosod at y fath waith aruthrol a hwn, ydoedd, rhag i ddiluw eu goddiwes eilwaith, a'u llwyr ddinystrio oddi ar wyneb y ddaiar; a rhag ofn hyny, iddynt adeiladu y tŵr a'r ddinas i'w cadw yn ddiogel rhag llifeiriant y dyfroedd. "Gwnawn i ni enw,' "ebe hwy, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaiar.” Er mai barn ereill yw hyn, eu bod hwy yn awr ar eu taith tua Gardd Baradwys; ac o blegid fod y wlad o amgylch mor hyfryd, yn llawn o beraroglau, a llysiau, a ffrwythau, a phob peth arall dymunol, chwennychasont i aros yno, hwy a'u hepil dros fyth, ac ar hyny iddynt adeiladu y tŵr a'r ddinas rhag eu gwasgaru oddi yno. [2]Ond pa fodd bynag yw hyny, ni adawodd yr Arglwydd iddynt ddwyn eu gwaith i ben, o blegid fe a gymmysgodd eu hiaith, fel na ddeallai'r naill beth a ddywedai y llall. Os dywedai un wrth ei gyfaill, "Moes i mi gareg," fe estynid iddo, ond odid, gaib yn lle careg. Os dywedai un arall, "Cadw y rhaff yn dyn," y llall a'i gollyngai hi yn rhydd. Fel hyn, yr iaith yn gymmysg, ac megys yn estron y naill i'r llall, ni allasent fyth fyned â'u gwaith yn y blaen.
Nid oedd ond un dafodleferydd o'r blaen drwy'r byd mawr, sef yr Hebraeg yn ddilys ddigon. Eithr y ddaiar, ag oedd cyn hyny o un iaith ac o un ymadrodd, a glywai ei thrigolion yn awr yn siarad deuddeg iaith a thri ugain; canys i gynnifer a hyny y mae hen hanesion yn mynegu ddarfod cymmysgu y famiaith, yr Hebraeg. Ac yn y terfysg mawr hwnw llawen iawn a fyddai gan un gyfarfod â'r sawl a fai'n deall eu gilydd; a hwy a dramwyent yma ac acw nes cael un arall; ac felly bob un ac un, i ddyfod yng nghyd oll, ac aros gyda'u gilydd yn gynnifer pentwr ar wahân, y sawl ag oeddent o'r un dafodiaith: a phwy oedd yn siarad Cymraeg, a dybiwch chwi, y pryd hwnw, ond Gomer, mab hynaf Iaphet, ab Noah, ab Lamech, ab Methusalah, ab Enoch, ab Iared, ab Malaleel, ab Cainan, ab Enos, ab Seth, ab Adda, ab Duw?