Dyma i chwi waedolaeth ac ach yr hen Gymry, c'uwch a'r a all un bonedd daiarol fyth bosibl i gyrhaedd ato, pe baem ni, eu hepil, yn well o hyny. Ac y mae yn ddilys ddiammheu genyf nad yw hyn ond y gwir pur loew; [1] canys, (1.) Y mae hanesion yr hen oesoedd yn mynegu hyny; a pha awdurdod chwaneg am unrhyw beth a ddygwyddodd yn y dyddiau gynt, na bod coflyfrau neu groniclau'r oesoedd yn tystio hyny? (2.) Y mae holl ddysgedigion Cred, gan mwyaf yn awr, megys o un geneu yn maentumio hyny. (3.) Y mae'r enw y gelwir ni yn gyffredin arno, sef yw hyny, Cymro, megys lifrai yn dangos i bwy y perthyn gwas, yn ysbysu yn eglur o ba le y daethom allan; canys nid oes ond y dim lleiaf rhwng Cymro a Gomero, fel y gall un dyn, ïe, â hanner llygad, ganfod ar yr olwg gyntaf.
Heb law hyn, yr ym yn darllen (Gen. x. 5) yng nghylch epil Iaphet, "O'r rhai hyn y rhanwyd ynysoedd y cenedloedd ;" lle, wrth "ynysoedd y cenedloedd," y meddylir yn ddiau Brydain Fawr ac Iwerddon, os nid y rhan fwyaf o ardaloedd Europ. Ond am Sem a Cham y dywedir yn unig, "Dyma feibion Sem a Cham, yn ol eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenedloedd." Oddi yma, y mae'n hawdd i gasglu, fod cynnifer o famieithoedd yn Nhŵr Babel a chenedlaeth hyd wyneb yr holl ddaiar; o famieithoedd, meddaf, y rhai sydd hen, a rhywiog, a boneddig. Nid oes oddi eithr deuddeg gwlad o holl ardaloedd Europ, [2] yn siarad mamiaith ddilwgr; nid yw y lleill eu gyd ond cymmysg, megys y Seisneg, Ffrangeg, Hispaneg, &c.
Ar ol i Gomer a'i gyd-dafodogion ddyfod o Asia i Europ, y mae'r hen ysgrifenyddion yn helaeth ragorol yn son am eu gwroldeb a'u medr i drin arfau rhyfel; canys dyna agos yr unig gelfyddyd ag oedd yn gosod synwyr yr hen bobloedd ar waith; ond yn enwedig ar ol eu dyfod i wladychu yn nheyrnas Ffrainc; canys ein hynafiaid ni, yr hen Gymry, oeddent yn ddilys ddiammheu y trigolion cyntaf yn Ffrainc, yn yr amseroedd gynt, sef yng nghylch amser Crist Iesu ar y ddaiar, a chyn hyny, fel y dangosaf isod. Digon gwir, yr oedd y Rhufeiniaid hwythau o gylch amser ein Hiachawdwr, yn wŷr mawrion, wedi goresgyn amryw wledydd wrth rym y cleddyf, ac yn wir â llywodraeth fawr iawn ganddynt ar fôr ac ar dir;